Newyddion S4C

Ymchwilio i TikTok ac eraill am eu defnydd o ddata plant

03/03/2025
TikTok

Bydd corff diogelu data'r DU yn ymchwilio i TikTok, fforwm ar-lein Reddit, a hefyd gwefan rhannu delweddau Imagur ynghylch sut y maen nhw’n defnyddio gwybodaeth bersonol defnyddiwr yn eu harddegau.

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) eu bod nhw eisiau edrych mewn i sut mae TikTok yn defnyddio gwybodaeth bersonol pobl ifanc 13-17 oed er mwyn argymell cynnwys iddyn nhw.

Mae’r ymchwiliadau i Reddit ac Imgur yn canolbwyntio ar sut maen nhw’n defnyddio gwybodaeth bersonol plant a sut maen nhw'n amcangyfrif neu'n gwirio oedran plant er mwyn teilwra cynnwys ar eu cyfer nhw.

Dywedodd y rheoleiddiwr ei fod yn cymryd y cam hwnnw oherwydd pryderon cynyddol ynglŷn â sut mae platfformau cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio data plant ar-lein, a'r peryg y bydd plant yn gweld cynnwys amhriodol neu niweidiol.

Cyflwynodd yr ICO god ar gyfer cwmnïoedd sy'n darparu cynnwys ar-lein ar gyfer plant yn 2021. Roedd hwnnw'n gofyn i gwmnïau gymryd camau i amddiffyn gwybodaeth bersonol plant ar-lein.

Dywedodd John Edwards, y Comisiynydd Gwybodaeth, wrth asiantaeth PA y byddai prosesau'r rheoleiddiwr yn rhai “cadarn”.

“Rwy'n disgwyl dod o hyd i lawer o ddefnydd o ddata plant gan eu systemau argymell sy'n ddi-fai a chadarnhaol," meddai.

"Byddaf yn disgwyl dod o hyd i elfennau sydd wedi eu creu i gadw plant yn ddiogel ac i sicrhau eu bod yn derbyn dim ond pethau priodol, er mwyn eu lles nhw.

“Yr hyn rwy’n poeni amdano yw a ydyn nhw’n ddigon cadarn i atal plant rhag cael niwed, naill ai o ganlyniad i natur gaethiwus y ddyfais neu’r platfform, neu o gynnwys y maen nhw’n ei weld, neu o arferion eraill sydd ddim yn gwneud lles iddyn nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran TikTok: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau profiad cadarnhaol i bobl ifanc ar TikTok, yn union fel yr ICO.

“Mae ein systemau argymell wedi’u dylunio ac yn gweithredu o dan fesurau llym a chynhwysfawr sy’n amddiffyn preifatrwydd a diogelwch pobl ifanc yn eu harddegau.

"Mae hynny'n cynnwys nodweddion diogelwch sy’n arwain y diwydiant a chyfyngiadau cadarn ar y cynnwys a ganiateir i bobl ifanc ei weld.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.