Carchar am oes am lofruddio mam o Lanelli yn ei chartref
Mae dyn 50 oed o Borth Tywyn, Sir Gâr wedi ei garcharu am oes am lofruddio mam o Lanelli yn ei chartref.
Bydd yn rhaid i Richard Jones dreulio o leiaf 20 mlynedd o dan glo ar ôl i lys ei gael yn euog o lofruddio Sophie Evans a oedd yn 30 oed.
Dywedodd teulu Sophie Evans na fyddan nhw fyth yn anghofio ei "gwên brydferth".
Roedd Richard Jones yn dad i bartner Ms Evans, a phan aeth i mewn i'w chartref ar 5 Gorffennaf 2024, roedd hi'n credu ei fod yno i wneud gwaith atgyweirio.
Lai na 40 munud yn ddiweddarach, roedd e wedi lladd y fam i ddau o blant.
Roedd tystiolaeth bod Jones yn credu ei fod yn cael ei dwyllo'n ariannol gan ei fab a Sophie Evans.
Clywodd Llys y Goron Abertawe hefyd am yr effaith ar deulu Sophie Evans.
'Y fam orau'
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: “Roedd ein Sophie ni yn garedig, ac yn fam, merch, chwaer a modryb ragorol.
“Roeddem i gyd yn ei haddoli. Hi oedd craig ein teulu, a'r fam orau yn y byd i'w dwy ferch fach.
“Ry'n ni ar goll yn llwyr heb ei gwên brydferth. Mae ein bywydau wedi eu dinistrio oherwydd y weithred greulon hon."
Yn ystod yr achos a barodd ddwy wythnos, gwelodd y rheithgor ddeunydd fideo yn dangos Sophie Evans yn hebrwng ei phlant i'r ysgol yn y bore, ryw hanner awr cyn i Jones gyrraedd ei chartref ar Ffordd Bigyn yn Llanelli.
O fewn 40 munud, roedd e wedi ymosod arni a'i gadael yn farw ar lawr y gegin.
Chafodd y gwasanaethau brys ddim eu galw tan 5.27 y brynhawn hwnnw, ar ôl i Jones awgrymu mewn negeseuon testun at ei gyn bartner iddo ladd y fam 30 oed.
Cafodd Richard Jones ei ddarganfod gan yr heddlu am 20:00 y noson honno ym Mharc Gwledig Pembre lle cafodd ei arestio.
Wedi'r ddedfryd ddydd Llun, dyweddodd y Ditectif Uwcharolygydd Gareth Roberts: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Sophie, yn y sefyllfa dorcalonnus hon.
“Roedd modd osgoi marwolaeth Sophie, ond dioddefodd weithred dreisgar pan gollodd Richard Jones ei dymer
"Roedd Sophie mewn sefyllfa fregus, pan ymosododd Jones arni yn ei chartref, heb unrhyw fodd o amddiffyn ei hun."