Dros 80% o benaethiaid ysgol wedi dioddef camdriniaeth gan rieni
Mae 82% o benaethiaid ysgol wedi profi camdriniaeth gan rieni o fewn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl arolwg gan undeb NAHT.
Oherwydd y gamdriniaeth, mae rhai wedi ystyried rhoi’r gorau i’w swyddi. Mae eraill wedi dioddef o orbryder, iselder a phyliau o banig, medd yr undeb .
Yn sgìl hyn, mae 42% o benaethiaid wedi gwahardd rhieni o safle’r ysgol a 32% wedi cysylltu â'r heddlu o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd y gwaith ymchwil ei gynnal yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae’r NAHT nawr yn galw ar Lywodraethau i anfon neges glir at rieni fod camdriniaeth mewn ysgolion yn annerbyniol. Maen nhw hefyd yn galw ar weinidogion i gynnal adolygiad brys o weithdrefnau cwyno.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod trais neu gam-drin ar unrhyw ffurf yn erbyn staff ei hysgolion yn “gwbl annerbyniol”.
Mae Uwchgynhadledd Ymddygiad ar y gweill ar gyfer y gwanwyn, ychwanegodd llefarydd.
'Straeon amhosib i'w credu'
Cafodd yr arolwg ei gynnal ym mis Tachwedd 2024 o blith dros 1,600 o aelodau undeb yr NAHT sy’n cynrychioli arweinwyr ym maes addysg .
Dywedodd Paul Whiteman, ysgrifennydd cyffredinol NAHT: “Mae rhai o’r straeon rydym ni’n clywed am ddioddefaint arweinwyr a’u staff oherwydd rhieni, bron yn amhosib i’w credu.
“Ddylai neb orfod dioddef y math hwn o gamdriniaeth yn eu gweithle.
“Mae’n achosi trallod enfawr i arweinwyr ysgol, eu staff, ac weithiau eu disgyblion, ac mae hyd yn oed yn cyfrannu at benderfyniadau gan bobl dda i adael y proffesiwn mewn cyfnod ble mae ysgolion yn wynebu argyfwng recriwtio difrifol.
"Ac mae'n effeithio’n uniongyrchol ar ansawdd yr addysg y mae plant yn ei dderbyn.”
Dywedodd un uwch arweinydd fod “cwynion maleisus a blinderus yn gwneud i mi fod eisiau gadael fy swydd a’m gwneud yn sâl.”
Ychwanegodd pennaeth arall: “Roeddwn i’n teimlo’n isel iawn a’n ofni agor fy e-byst ... dywedodd aelod arall o’r tîm y byddai’n bosib y byddai’n rhaid iddyn nhw ymddiswyddo er mwyn osgoi darllen yr e-byst”.
Awgrymodd yr arolwg fod 35% o benaethiaid yn profi camdriniaeth gan rieni yn fisol, ac 16% yn wythnosol.
Camdriniaeth lafar yw’r mwyaf cyffredin, gydag 85% o benaethiaid wedi profi’r math hwn o gamdriniaeth.
Dywedodd 68% iddyn nhw brofi ymddygiad bygythiol. Nododd 46% iddyn nhw ddioddef camdriniaeth ar-lein, a chyfeiriodd 22% at iaith wahaniaethol.
Ac yn ôl yr arolwg, roedd un ym mhob 10 wedi dioddef trais corfforol a 4% wedi profi poeri o fewn y 12 mis diwethaf.
Cytunodd 86% o benaethiaid hefyd fod y gamdriniaeth gan rieni wedi cynyddu yn y tair blynedd ddiwethaf.
'Gwbl annerbyniol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae trais neu gam-drin ar unrhyw ffurf yn erbyn staff ein hysgolion yn gwbl annerbyniol.
“Caiff plant eu cefnogi yn y ffordd orau lle mae modd i rieni ac ysgolion gydweithio, a lle mae yna barch a chefnogaeth y naill at y llall.”
Ychwanegodd: “Ni ddylai bwlio, aflonyddu na cham-drin fod yn bethau y mae ein hathrawon yn gorfod eu hwynebu ar unrhyw adeg.”