
Gobaith Mawr y Ganrif: Teyrngedau i Geraint Jarman
Gobaith Mawr y Ganrif: Teyrngedau i Geraint Jarman
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r canwr, bardd a'r cynhyrchydd teledu Geraint Jarman, yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth yn 74 oed.
Daeth yn amlwg fel artist blaenllaw yn ystod 70au'r ganrif ddiwethaf gyda'i fand Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr.
Cyhoeddodd ei albwm unigol gyntaf, 'Gobaith Mawr y Ganrif' ar label Sain yn 1976.
Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fore dydd Llun: "Yn syfrdan o glywed am farwolaeth Geraint Jarman.
"Rhan mor fawr o hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru - un o’r mwyaf dylanwadol erioed, heb os.
"Cefais y pleser o sgwrs fer âg o yn ddiweddar. Bydd ei waddol cerddorol gyda ni am byth. Diolch Geraint."
Ysbrydoliaeth
Wrth gyhoeddi llun o Geraint Jarman ar ei gyfrif Instagram, dywedodd y cerddordd Yws Gwynedd: "Roedd y genhedlaeth nath ysbrydoli fy nghenedlaeth i i gyd wedi eu hysbrydoli gan hwn. Am waddol i adael ar dy ôl."
Dywedodd label recordio Sain mewn datganiad: "Mae Sain yn anfon ein cofion at Nia a'r merched, ac yn cydymdeimlo a'r teulu yn eu hiraeth.
"Roedd Geraint yn un o gewri adloniant Cymru, ac wedi gosod safon uchel i'r byd cerddorol Cymraeg ers degawdau.
"Dim ond y gorau a wnai'r tro iddo, o ran y geiriau a'r gerddoriaeth, a daeth a dylanwadau o ddiwylliannau eraill i'r sin heb gyfaddawdu dim ar ei Gymreictod.

Un sydd wedi astudio gwaith Geraint Jarman yw'r bardd a'r golygydd Marged Tudur o Forfa Nefyn.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae geiriau fel ‘eicon’ ac ‘arloeswr’ yn cael eu defnyddio o hyd heddiw ond heb os, dyna ddau air i ddisgrifio Geraint Jarman.
"Mae’n amhosib trio dechrau cwmpasu ei waddol. Bardd, cyfansoddwr, cerddor, cynhyrchydd ond eto nid yw’r labeli hynny yn gwneud cyfiawnder ag un o sylfaenwyr y byd roc Cymraeg ac un a arweiniodd y ffordd i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yng Nghymru.
"Mae geiriau ei gerdd ‘Beirdd Ifanc’ o’r gyfrol Eira Cariad (Llandybie, 1970), yn canu yn fy mhen bore ’ma:
‘Ym marddoniaeth caniateir popeth.
Dim ond gyda’r un amod hwn
wrth gwrs:
mae’n rhaid i chwi wella ar y dudalen wag.’
"Wrth gwrs, gwnaeth Geraint Jarman llawer iawn mwy na ‘gwella ar y dudalen wag’. Diolch iddo am gyfraniad amhrisiadwy."
'Eicon'
Wrth roi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru: "Newyddion trist am golli eicon ac un o ddylanwadau cerddorol mawr y genedl.
"Gwesty Cymru oedd fy albwm cyntaf erioed ac roedd ei ganeuon dros y degawdau yn drac sain fy mywyd.
