Newyddion S4C

Teyrnged mam i’w mab wrth i’r dyn a’i laddodd gael ei garcharu

Jason Thomas a Liam Morgan Whittle
Jason Thomas a Liam Morgan Whittle

Mae mam wedi rhoi teyrnged i’w mab “cariadus, gofalgar a doniol” wedi i ddyn gael ei garcharu am ei ddynladdiad.

Bu farw Liam Morgan Whittle, 22 oed, ar ôl ddioddef anafiadau i’w ben ar ôl cael ei ddyrnu ar noson allan yn Llanelli.

Cafodd Jason Thomas ei garcharu am ddynladdiad ar ôl cyfaddef i’r ymosodiad ar ddydd Sul, Mawrth 25, 2023.

Dywedodd mam Liam, Claire Whittle na fyddai am i’r un teulu arall fynd drwy’r un profiad. 

“Nid oedd gan Liam salwch, ni chafodd ddamwain annisgwyl ac nid oedd eisiau marw,” meddai.

“Cafodd ei ladd.

“All geiriau ddim esbonio’r boen, y dinistr, yr ing, a’r dicter rydyn ni wedi’i ddioddef ers i Liam gael ei gymryd oddi wrthym ni. 

“Ni ddylai neb fynd trwy drasiedi fel ydyn ni wedi ei ddioddef oherwydd mae'n ddiddiwedd.

“Ni fyddwn fyth yn dod i delerau ag ef, ac ni fyddwn fyth yn gwella.”

Yr achos

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i gyfeiriad ar Stryd Robinson yn oriau mân y bore, lle’r oedd parafeddygon yn rhoi cymorth i Morgan Whittle.

Cafodd Jason Thomas ei arestio ar amheuaeth o ymosod gan achosi niwed corfforol difrifol.

Roedd y ddau yn adnabod ei gilydd drwy ffrind arall, a chafodd yr heddlu wybod eu bod wedi bod mewn anghytundeb a arweiniodd at y digwyddiad.

Bu farw Morgan Whittle yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty.

Cafodd Thomas ei gyhuddo o ddynladdiad ac fe blediodd yn euog ar y diwrnod pan oedd ei achos llys i fod i gychwyn.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Wayne Bevan, uwch swyddog ymchwilio ei fod yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn gysur i’r teulu.

“Bu farw Liam mewn amgylchiadau trasig ar ôl noson allan gyda ffrind. 

“Arweiniodd ymddygiad treisgar dyn arall, Jason Thomas, at y canlyniad mwyaf dinistriol, a bydd yn rhaid i deulu Liam, ynghyd â Jason Thomas fyw gyda’i weithredoedd am weddill eu hoes.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.