Rhybudd i deithwyr i osgoi rhan o Gaerdydd o achos amodau gyrru peryglus
03/03/2025
Mae swyddogion o Heddlu'r De wedi rhybuddio teithwyr i osgoi rhan o ardal Lecwydd yn y brifddinas wedi gwrthdrawiad yno fore Llun.
Mae'r llu wedi rhybuddio gyrwyr i gymryd gofal gan fod rhew du “hynod o beryglus” ar y ffordd rhwng Llandochau a’r gylchfan yn Lecwydd.
Dywedodd llefarydd fod ffordd y bryn yn Lecwydd ar agor wedi’r gwrthdrawiad ond eu bod yn annog pobl i osgoi’r ardal.
Maen nhw’n dweud y dylai teithwyr disgwyl oedi yno am gyfnod.