
Yr Oscars: Llwyddiant i ddyn gafodd ei addysg yn Llanfyllin
Y ffilm Anora ddaeth i'r brig yng ngwobrau'r Oscars nos Sul, ar ôl ennill pum gwobr yn y seremoni yn Los Angeles.
Ac roedd llwyddiant i ddau gafodd eu magu yng Nghymru hefyd ar y noson. Cafodd Lol Crawley, a gafodd ei fagu yn Llansantffraid-ym-Mechain, Powys, y wobr am ei waith sinematograffi ar ffilm The Brutalist.
Wrth dderbyn y wobr ar y llwyfan, dywedodd Lol Crawley ei fod am ddiolch i'w holl ffrindiau nôl yng Nghymru.
Roedd llwyddiant hefyd i Rhys Salcombe, sy'n wreiddiol o Aberystwyth ond sydd bellach yn byw yng Nghanada.
Cipiodd y wobr am yr Effeithiau Gweledol Gorau am ei waith ar ffilm Dune: Part Two.

The Brutalist oedd un o brif enillwyr arall y noson ar ôl ennill tair gwobr, gan gynnwys gwobrau am y sinematograffi gorau a’r gerddoriaeth orau.
Mikey Madison gipiodd y wobr am yr Actores Orau, a hynny am ei pherfformiad yn Anora.
Fe wnaeth cyfarwyddwr y ffilm, Sean Baker, lwyddo i fod y person cyntaf erioed i ennill pedair Oscar am ffilm ar yr un noson – gan gynnwys gwobrau am gyfarwyddo, golygu, ysgrifennu a chynhyrchu.

Adrien Brody enillodd y wobr am yr Actor Gorau am ei rôl fel pensaer Iddewig o Hwngari sy’n symud i’r Unol Daleithiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn The Brutalist.
Fe enillodd Zoe Saldaña wobr yr Actores Gefnogol Orau am ei rôl yn y ffilm Emilia Pérez.
Kieran Culkin enillodd gwobr yr Actor Cefnogol Gorau am ei rôl yn A Real Pain.
Roedd y ffilm Wicked wedi ennill dwy wobr ar y noson, sef Dyluniad Cynhyrchu Gorau a Dyluniad Gwisgoedd Gorau.
Flow enillodd y wobr am y ffilm orau oedd wedi’i hanimeiddio, ac I’m Still Here - ffilm o Frasil - a enillodd gwobr y Ffilm Ryngwladol Orau.
Prif lun: Wochit