
Llyfr yn codi cwestiynau newydd am lofruddiaeth bwa croes Ynys Môn
Cafodd tystiolaeth ei gadw’n gyfrinachol mewn dau achos llys yn ymwneud â dyn o Ynys Môn gafodd ei ladd gyda bwa croes, yn ôl llyfr newydd am y llofruddiaeth.
Mae ‘Murder on Ynys Môn’ gan y newyddiadurwr Siôn Tecwyn a Meic Parry, cynhyrchydd podlediad “The Crossbow Killer’, yn olrhain hanes llofruddiaeth Gerald Corrigan.
Cafodd y dyn 74 oed ei saethu tu allan i’w gartref anghysbell ger Caergybi yn ystod oriau mân dydd Gwener y Groglith 2019.
Cafodd y llofrudd, Terry Whall, ei yrru i garchar am 31 mlynedd.
Ond mae’r rheswm am y llofruddiaeth yn dal yn ddirgelwch, gyda llawer yn amau fod Whall wedi lladd Mr Corrigan ar ran rhywun arall.
Tystiolaeth
Bellach, mae wedi dod i’r amlwg na chafodd cyfreithwyr Whall na’r rheithgor weld yr holl ddeunydd gafodd ei gasglu yn ystod yr ymchwiliad.
Llwyddodd yr erlyniad i gael Gorchymyn Imiwnedd Budd y Cyhoedd (‘Public Interest Immunity Order’) oedd yn rhoi’r hawl iddyn nhw beidio datgelu rhai pethau – rhywbeth anghyffredin iawn mewn achosion troseddol.
Mae canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud mai dim ond mewn ‘amgylchiadau eithriadol’ y dylid gwneud cais am orchymyn o’r fath, a dim ond os ydy hynny ‘er budd y cyhoedd’.
“Does dim byd i awgrymu fod hyn wedi arwain at anghyfiawnder i Terry Whall - fo oedd y llofrudd,” meddai’r awduron.
“Ond mewn achos sydd â chymaint o gwestiynau sydd dal heb eu hateb, mae’r cyfrinachedd yma’n codi rhagor o gwestiynau.”

Yn ddiweddarach, cafodd dyn arall, Richard Wyn Lewis, ei garcharu am chwe blynedd am gael dros £200,000 gan Mr Corrigan a’i bartner drwy dwyll yn y blynyddoedd cyn y saethu.
Does dim tystiolaeth fod cysylltiad rhwng y twyll a’r llofruddiaeth.
Unwaith eto, yn yr achos yma hefyd, cafodd peth deunydd ei gadw’n gyfrinachol ar orchymyn barnwyr.
Yn achos Richard Wyn Lewis, roedd ei dîm cyfreithiol eisiau gweld tystiolaeth a chofnodion a fyddai, medde nhw, yn dangos fod Lewis wedi bod yn ‘police informant’ yn bwydo gwybodaeth am droseddwyr o bwys yn y fafrchnad gyffuriau yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae Richard Wyn Lewis bellach wedi ei ryddhau o garchar o dan drwydded. Dywedodd na allai wneud sylw ar y mater, ond mae wedi dweud wrth ffrindiau ei fod yn teimlo nad ydi’r heddlu wedi gwneud digon i’w gadw’n ddiogel.
Cafodd Lewis ei arestio ar un adeg ar amheuaeth o fod a rhan yn y llofruddiaeth, ond chafodd o mo’i gyhuddo o unrhyw drosedd mewn cysylltiad a’r saethu.
Mae wastad wedi gwadu fod ganddo unrhyw beth i’w wneud a’r llofruddiaeth, gan ddweud ei fod o a Gerald Corrigan “yn ffrindiau da”.

Gwrthododd Gwasanaeth Erlyn y Goron wneud unrhyw sylw ar y naill achos na’r llall, a gwrthododd Heddlu’r Gogledd wneud sylw ar yr honiadau bod ganddyn nhw drefniant gyda Richard Wyn Lewis iddo fwydo gwybodaeth iddyn nhw.
Mae’r llyfr hefyd yn datgelu sut y penderfynodd ffrind i Gerald Corrigan ffoi dramor ychydig wedi’r saethu, gan ddweud wrth ffrindiau ei fod o hefyd yn poeni am ei ddiogelwch yn sgîl y llofruddiaeth.
“Mae’n amlwg fod rhai pobl – hyd heddiw – yn dal yn rhy ofnus i siarad am yr hyn ddigwyddodd.”
“Does dal ddim prawf be’n union arweiniodd at y llofruddiaeth. Mae o leiaf un person yn gwybod – Terry Whall - a mae o’n gwrthod dweud," meddai’r awduron.
Mae’r llyfr yn cynnwys cyfweliadau gyda nifer o bobl oedd ynghlwm â’r achos, gan gynnwys merch Gerald Corrigan a rhai o’i gyfeillion, yn ogystal â nifer o bobl oedd yn adnabod y llofrudd Terry Whall.
Mae hefyd yn cynnwys barddoniaeth Cymraeg a Saesneg gan y bardd Rhys Iorwerth.
Mae ‘Murder on Ynys Môn’ yn cael ei gyhoeddi ar 3 Mawrth gan Seren Books.