Newyddion S4C

Arestio dau ddyn ar amheuaeth o lofruddio menyw yn Abertawe

Leanne Williams

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau ddyn ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth menyw yn Abertawe.

Dywedodd y llu bod y ddau wedi eu cadw yn y ddalfa.

Daeth swyddogion o hyd i gorff Leanne Williams, 47 oed, yn ei chartref yn Stryd Gomer yn ardal Townhill y ddinas am tua 14:00 ar ddydd Iau 27 Chwefror.

Dywedodd y llu fod archwiliad post mortem gan y Swyddfa Gartref wedi nodi anafiadau sylweddol a oedd yn gyson ag ymosodiad.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark O’Shea: “Mae’r newyddion trasig hwn wedi dod yn sioc i’r gymuned leol ac wrth gwrs yn ddinistriol i’w theulu yr ydym yn eu cefnogi. 

“Mae gennym ni dîm o swyddogion yn gweithio rownd y cloc ar yr ymchwiliad hwn a gallaf gadarnhau bod gennym ni ddau ddyn yn nalfa’r heddlu – ar hyn o bryd nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall.

“Rydym yn ceisio dod o hyd i symudiadau olaf Leanne o 18:00 ddydd Llun,24 Chwefror 24, i 14:20 ar y dydd Iau canlynol pan gafodd ei darganfod gan swyddogion.

“Gofynnir i unrhyw un sy’n byw yn, neu sydd wedi teithio trwy Stryd Gomer neu’r ardaloedd cyfagos yn ystod y cyfnod hwn, wirio eu camerâu cylch cyfyng preifat neu gamera dashfwrdd am unrhyw beth a allai fod yn berthnasol.

"Nid oes ots pa mor ddi-nod y gall ymddangos. Rydym am glywed yn arbennig gan bobl a oedd yn adnabod Leanne ac nad ydynt wedi siarad â swyddogion eto.

“Bydd y gymuned wedi sylwi ar weithgarwch heddlu yn yr ardal ac mae hyn er mwyn tawelu meddwl trigolion yr ydym yn gwybod sy’n bryderus ac i siarad â nhw i weld a oes ganddynt wybodaeth a allai fod o gymorth i ni.”

Mae cordon heddlu yn parhau yn y cyfeiriad yn Heol Gomer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.