Dynes wedi'i harestio ar ôl i ferch bedair oed farw mewn tân yn ei chartref
Mae dynes wedi’i harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol ar ôl i ferch bedair oed farw mewn tân mewn tŷ ym Manceinion.
Cafodd y ferch ei thynnu o’r tân yn yr eiddo yn Rusholme, brynhawn Sul, meddai Heddlu Manceinion Fwyaf.
Bu farw o'i hanafiadau yn ddiweddarach yn yr ysbyty.
Fe arestiwyd y ddynes 44 oed, oedd yn adnabod y plentyn, ar amheuaeth o losgi bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd.
Dywedodd y ditectif brif arolygydd Charlotte Whalley nad oes “bygythiad ehangach i’r gymuned” ar ôl y “digwyddiad ofnadwy”.
Ychwanegodd: “Bydd y digwyddiadau trasig hyn wrth gwrs yn achosi pryder, ond rwyf am sicrhau’r cyhoedd ein bod yn ymchwilio’n llawn i holl amgylchiadau’r tân."