Llong ofod breifat Blue Ghost yn glanio ar y Lleuad
Mae llong ofod breifat wedi glanio ar y Lleuad, yr ail un fasnachol i gyrraedd wyneb y lloeren.
Fe wnaeth Blue Ghost adael y Ddaear ar 15 Ionawr, ar ôl cael ei lansio gan gwmni Firefly Aerospace o’r Unol Daleithiau gyda’r bwriad o archwilio crater enfawr sy’n weladwy o’r Ddaear.
Dyma’r prosiect diweddaraf mewn cyfres rhwng asiantaeth ofod yr Unol Daleithiau, Nasa, a chwmnïau preifat.
Mae Intuitive Machines, cwmni arall, yn gobeithio glanio llong ofod Athena ger pegwn deheuol y Lleuad yn ystod y dyddiau nesaf.
Intuitive oedd y cwmni preifat cyntaf i lanio ar y Lleuad. Cyrhaeddodd ei llong ofod Odysseus y Lleuad ar 22 Chwefror y llynedd.
Fodd bynnag, fe wnaeth y llong ofod lanio ar lethr crater, gan achosi difrod i offer glanio a disgyn drosodd.
Fe wnaeth Blue Ghost lanio’n esmwyth, ar ôl bod yn cylchdroi'r Lleuad am y pythefnos diwethaf.
Y tro diwethaf i fodau dynol osod troed ar y Lleuad oedd 19 Rhagfyr 1972, yn ystod taith Apollo 17.
Llun: Wochit