Newyddion S4C

'Llywodraeth Cymru yn ceisio creu hollt' gyda Llywodraeth Boris Johnson yn ystod y pandemig

Drakeford a Johnson

Roedd rhai o bolisïau a sylwadau gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod clo'r pandemig yn cael eu gwneud gyda’r bwriad o ‘greu hollt’ gyda Llywodraeth y DU.

Dyna yw barn y cyn Aelod o’r Senedd, Simon Hart, oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Llywodraeth Geidwadol yn ystod y cyfnod.

Mae sylwadau Mr Hart, a oedd yn cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro am 14 mlynedd hyd at fis Mai y llynedd, yn dod o ddyddiaduron o’r cyfnod rhwng 2019 a 2024, sydd wedi’u cyhoeddi mewn llyfr newydd.

Yn ystod y cyfnod Covid, Llywodraeth Cymru oedd yr olaf o fewn y DU i orfodi masgiau, gyda’r cyngor yn cael ei roi ar 9 Gorffennaf 2020.

Image
Simon Hart
Simon Hart oedd Aelod y Senedd dros etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro am 14 mlynedd hyd at fis Mai y llynedd

Daeth hynny ar ôl i’r un cyngor gael ei roi yn yr Alban ar 28 Ebrill, yng Ngogledd Iwerddon ar 7 Mai a Lloegr ar 11 Mai.

Roedd rheolau gwahanol dros gyfnodau clo, gyda Llywodraeth y DU, dan Boris Johnson, yn penderfynu ymlacio rheolau ar ddechrau 2022, tra bod polisïau Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford yn parhau yn fwy llym.

Fis Ionawr 2022, roedd masgiau yn orfodol mewn siopau, tafarndai a bwytai yng Nghymru, ond nid dros y ffin, tra bod pobl yn cael mynychu digwyddiadau chwaraeon cyhoeddus yn Lloegr ond nid yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod bob penderfyniad "oedd yn ymwneud â Covid-19 yn seiliedig ar dystiolaeth, a bob amser yn cael ei wneud er lles Cymru.”

Wrth drafod y cyfnod ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales fore Sul, dywedodd Simon Hart bod polisïau yn creu ansicrwydd, “ar adeg pan oedd angen sicrwydd fwyaf.”

“Rwy’n meddwl y byddai cysondeb ar draws y DU wedi bod yn llawer, llawer symlach o safbwynt ceisio cyfleu neges glir iawn ond pwysig i drigolion y DU, ble bynnag y gallent fyw neu weithio,” meddai.

“Cafodd ei wneud yn llawer mwy cymhleth gan y ffaith bod rheolau gwahanol mewn lleoedd gwahanol - yn ôl pob golwg, heb unrhyw reswm ymarferol amlwg.

Image
Masgiau
Yn 2022, roedd masgiau yn orfodol mewn siopau, tafarndai a bwytai yng Nghymru, ond nid dros y ffin

“A’r enghraifft amlycaf hynny oedd y nifer enfawr o bobl oedd yn croesi’r ffin yn gynnar yn y bore a gyda’r nos fel rhan o’u gwaith.

“Rwyf bob amser yn cofio cael rhyw fath o gyhoeddiad ar drên Great Western, rhywle o dan dwnnel yr Afon Hafren, a fyddai'n newid y rheolau ynghylch gwisgo masgiau.

“Roedd yn arfer fy nharo fel peth rhyfedd braidd i gael ei gyhoeddi ar drên pan fyddwch chi bum munud o dan yr Afon Hafren.”

Fe awgrymodd Mr Hart bod y ffaith fod etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal yn 2021 wedi dylanwadu ar benderfyniadau’r Llywodraeth.

'Rhesymau gwleidyddol'

“Wrth i’r pandemig barhau, fe wnes i ddod i’r casgliad yn fwyfwy mai gwleidyddiaeth oedd yn sail i’r penderfyniadau. 

"Roedd yna, etholiad Senedd ar y gweill, a doeddwn i ddim yn teimlo bod y penderfyniadau'n cael eu gwneud ar sail rheoli clefydau a rheoli risg yn unig.

Image
drakeford johnson
Roedd Llywodraeth Cymru, dan Mark Drakeford, yn gweithredu polisïau gwahanol i Lywodraeth Boris Johnson yn San Steffan ar adegau yn ystod y pandemig

“Roedd rhywfaint ohono, a pheth o’r naratif a oedd yn cyd-fynd ag ef, rhai o’r areithiau a’r sylwadau a wnaed gan weinidogion yng Nghaerdydd wedi’u cynllunio’n fwriadol i greu hollt rhwng y ddwy lywodraeth, ac i greu rhywfaint o amheuaeth ym meddyliau trigolion Cymru mai’r penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU oedd ar fai.

“Dwi'n meddwl bod yna foment pan yn fwy nag erioed, roedd angen sicrwydd arnom, roedd ansicrwydd yn cael ei roi yn y trafodaethau am ddim rheswm amlwg heblaw ceisio creu mantais wleidyddol.

“A phan edrychwch ar gyfraddau heintiau, cyfraddau marwolaeth a’r ystadegau erchyll yr oedd yn rhaid i ni eu dioddef ar y pryd, yn y diwedd, roedd y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr, a Chymru a’r Alban, mor ymylol, fel ag i atgyfnerthu fy marn efallai y dylem fod wedi cael un dull unigol o ymdrin â’r pandemig, a fyddai wedi bod yn haws ei reoli a’i ddeall.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Roedd pob penderfyniad gan Weinidogion Cymru oedd yn ymwneud â Covid-19 yn seiliedig ar dystiolaeth, a bob amser yn cael ei wneud er lles Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.