Arweinwyr Ewropeaidd a Chanada yn ymgynnull yn Llundain i drafod Wcráin
Arweinwyr Ewropeaidd a Chanada yn ymgynnull yn Llundain i drafod Wcráin
Mae arweinwyr Ewropeaidd a Chanada wedi ymgynnull yn Llundain ddydd Sul i gynnal trafodaethau ar sut i ddod â’r rhyfel yn Wcráin i ben.
Er mai Arlywydd America Donald Trump yw’r grym y tu ôl i drafod heddwch â Rwsia, mae Syr Keir Starmer eisiau i Ewrop fod yn barod i arwain ymdrechion cadw heddwch pe bai bargen yn cael ei tharo.
Yn Lancaster House, mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi annog y 18 gwlad sy’n bresennol i ddilyn y DU wrth ateb galwadau’r Unol Daleithiau i gynyddu gwariant ar amddiffyn.
Yr wythnos hon fe wnaeth Syr Keir gyhoeddi cynnydd yng ngwariant amddiffyn y DU i 2.5% o’i chynnyrch economaidd erbyn 2027.
Dywedodd Mr Starmer ddydd Sadwrn y bydd y Deyrnas Unedig yn “rhoi cefnogaeth lawn” i Wcráin wrth i Arlywydd y wlad, Volodomyr Zelensky ymweld â Downing Street.
Daw ymweliad Mr Zelensky i Lundain ar ôl ffrae gyhoeddus gydag Arlywydd America, Donald Trump, yn y Tŷ Gwyn yn Washington DC ddydd Gwener.
Cyn yr uwchgynhadledd ddydd Sul, fe wnaeth y Canghellor Rachel Reeves lofnodi cytundeb benthyciad gwerth £2.26 biliwn gydag Wcráin, i dalu am gymorth milwrol pellach ac ailadeiladu’r Wcráin yn y dyfodol.
Mae'r DU yn gobeithio adennill y costau o asedau Rwseg sydd wedi'u cloi mewn cyfrifon banc ledled Ewrop.
Mae disgwyl i Mr Zelensky gwrdd â'r Brenin yn Sandringham yn Norfolk ddydd Sul, ar ôl bod yn yr uwchgynhadledd.