Cadarnhau arestio menyw ar amheuaeth o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth plentyn
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arestio menyw ar amheuaeth o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth plentyn yn Sir Gâr.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y gwasanaeth ambiwlans wedi eu galw i gynorthwyo gyda galwad mewn eiddo yn Llangynnwr, Caerfyrddin tua 18:00 ddydd Iau, 20 Chwefror.
Ychwanegodd y llu fod "plentyn yn sâl” ac fe gafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty lle bu farw ychydig yn ddiweddarach.