ORIEL: Nofwyr gwyllt yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Mae grŵp o nofwyr gwyllt wedi nodi Dydd Gwŷl Dewi drwy ymdrochi yn y môr a chanu emynau ar draeth yng Ngheredigion.
Mae Nofwyr Gwyllt Aberporth yn grŵp sydd â 100 o aelodau, ac sydd yn ymgynnull bob dydd i nofio, drwy gydol y flwyddyn
I nodi diwrnod y nawdd sant, penderfynodd y grŵp i gynnal dathliad arbennig ar draeth Dolwen, Aberporth.
Roedd nofwyr yn gwisgo penwisgoedd cennin pedr, yn ogystal â’u dillad nofio, wrth iddyn nhw nofio yn y môr.
Yna, fe wnaethant rannu pice ar y maen, cyn gorffen drwy ganu’r anthem genedlaethol ac emynau ar y traeth.
Yn ôl y grŵp, nod y digwyddiad oedd i “ddathlu dydd ein nawdd sant a hybu’r Gymraeg.”
“Y rheswm ni’n gwisgo cennin pedr yw parhau'r traddodiad llynedd a chadw’r iaith Gymraeg yn fyw,” meddai Helen Thomas o Nofwyr Gwyllt Aberporth.
“Ni hefyd yn mynd i ganu cwpwl o ganeuon Cymraeg er mwyn hybu’r dysgwyr sydd gyda ni yn y grŵp.”