Tebygolrwydd bod Gene Hackman a'i wraig wedi marw 10 diwrnod cyn i’w cyrff gael eu canfod
Mae tebygolrwydd bod yr actor Gene Hackman a'i wraig, y pianydd clasurol Betsy Arakawa, wedi marw 10 diwrnod cyn i’w cyrff gael eu canfod yn ôl awdurdodau yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd eu cyrff eu darganfod yn eu cartref yn Santa Fe yn nhalaith New Mexico ddydd Mercher.
Dywedodd swyddogion yr heddlu fod tystiolaeth yn awgrymu bod Hackman wedi bod yn farw ers 17 Chwefror - 10 diwrnod cyn i gyrff y cyplau gael eu darganfod.
Cafodd cyrff y cwpl ac un o’u cŵn eu darganfod gan yr heddlu ar ôl i weithiwr cynnal a chadw alw’r gwasanaethau brys.
Cafodd Hackman, 95 oed, ei ddarganfod mewn ystafell ochr ger y gegin tra daethpwyd o hyd i Arakawa, 65 oed, mewn ystafell ymolchi, yn yr eiddo.
Gofynnwyd am awtopsi a phrofion tocsicoleg ar gyfer y ddau. Dywedodd awdurdodau y gallai fod ychydig fisoedd cyn i ganlyniadau'r rheini gael eu rhyddhau.
Ni ddaeth y cwmni cyfleustodau lleol o hyd i unrhyw arwydd o ollyngiad nwy yn yr ardal ac ni wnaeth y frigâd dân ddod o hyd i unrhyw arwydd o ollyngiad carbon monocsid neu wenwyn, yn ôl swyddogion.
Dywedodd yr awdurdodau fod rheolydd calon Hackman wedi cofrestru gweithgaredd diwethaf ar 17 Chwefror, gan ychwanegu bod hyn yn rhoi rhagdybiaeth dda iddyn nhw mai dyna oedd ei ddiwrnod olaf o fywyd.
Dywedodd merch Hackman, Leslie Anne Hackman, wrth y Mail Online fod ei thad wedi bod mewn “cyflwr corfforol da iawn” yn allanol er gwaethaf ei oedran, ac nad oedd wedi cael “unrhyw lawdriniaeth mawr” yn ystod y misoedd diwethaf.
“Roedd yn hoffi gwneud pilates a ioga, ac roedd yn parhau i wneud hynny sawl gwaith yr wythnos,” meddai. "Felly roedd mewn iechyd da."
Er bod yr heddlu wedi cyhoeddi nad oedd amgylchiadau amheus yn wreiddiol, maent bellach wedi dweud eu bod yn cael eu hystyried yn "ddigon amheus yn eu natur i gyfiawnhau ymchwiliad trylwyr".