Newyddion S4C

'Troseddwr yr Awr' gan Dros Dro yn ennill Cân i Gymru 2025

Dros Dro

Y gân 'Troseddwr yr Awr' gan y band Dros Dro sydd wedi ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2025.

Cafodd y gân ei dewis yn enillydd drwy bleidlais gyhoeddus yn fyw ar raglen Cân i Gymru ar S4C nos Wener.

Eleni fe gafodd y broses bleidleisio ei newid i wasanaeth ar-lein yn unig, gan ddilyn yr un drefn â chystadlaethau teledu mawr eraill.  

Dros Dro oedd yn perfformio’r gân yn fyw o Dragon Studios ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r band o Sir Gâr wedi ennill £5,000, tlws newydd Cân i Gymru a chytundeb perfformio.

Yn ail ac yn ennill £3,000 roedd 'Diwedd y Byd' gan Mark Skone.

Yn drydydd ac yn ennill £2,000 'Lluniau Ar Fy Stryd’ gan Meilyr Wyn.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr, oedd cadeirydd panel y beirniaid a oedd yn mentora'r perfformwyr.

Y beirniaid oedd y cerddor Peredur ap Gwynedd; y gantores a'r cyflwynydd Caryl Parry Jones; y rapiwr Sage Todz a’r gantores Catty.  

 


 

 

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.