Newyddion S4C

Y canwr Dafydd Iwan yn perfformio fersiwn newydd o'r anthem genedlaethol

28/02/2025
Dafydd Iwan yn perfformio Hen Wlad Fy Nhadau

Mae S4C wedi rhyddhau fersiwn newydd o’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, wedi ei pherfformio gan y canwr Dafydd Iwan.

Dywedodd y darlledwr mai'r bwriad yw defnyddio "un o leisiau amlycaf Cymru" i berfformio fersiwn newydd ond bytholwyrdd o’r anthem ar ei hyd. 

Mae fersiwn arbennig hefyd wedi ei chreu gydag isdeitlau ffonetig er mwyn helpu'r rhai llai rhugl neu sy’n dysgu Cymraeg i "ymuno â chanu gyda balchder".

Y Cyfarwyddwr Cerdd, Owain Roberts, sydd wedi creu'r trefniant cerddorol ar gyfer y perfformiad.

Bydd y fideo yn llawn, sy'n cynnwys penillion llai adnabyddus yr anthem, i'w gweld am y tro cyntaf yn ystod egwyl olaf rhaglen Cân i Gymru nos Wener.

Image
Dafydd Iwan yn perfformio Hen Wlad Fy Nhadau

Yn ôl Dafydd Iwan, mae'r anthem Hen Wlad Fy Nhadau yn "dod â phawb at ei gilydd". 

"Be sy’n wych amdani wrth gwrs yng Nghymru ydi ei bod hi’n Gymraeg, a bod pobl di-Gymraeg yn canu fel y medran nhw yn Gymraeg," meddai.

"Mae hi’n gweithio fel cân i’r genedl ydyn ni’n medru hawlio."

Ond dywedodd nad yw'r anthem bob amser wedi cael ei werthfawrogi.

"Fuodd 'na duedd rai blynyddoed yn ôl i ryw chwarae lawr pwysigrwydd yr anthem Hen Wlad Fy Nhadau," meddai.

"Ond dw i'n gweld erbyn hyn mae pobol 'di dod nôl i weld, 'Ah, mae'n dda bo' gyna ni gân sydd yn dod â pawb at ei gilydd."

'Anrhydedd'

Dyma oedd y tro cyntaf i Owain Roberts, sy’n fwy adnabyddus yng Nghymru am ei fand Band Pres Llareggub, gydweithio gyda Dafydd Iwan.

Yn wreiddiol o Fangor, mae Mr Roberts bellach yn byw yn Llundain lle mae’n gweithio fel cyfansoddwr ac yn cyfansoddi i’r sgrîn.  

"Mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd cael gweithio efo Dafydd Iwan, ond mae ‘na bwysau gweithio efo rhywbeth fel anthem genedlaethol," meddai.

"Mae pawb isio rhywbeth gwahanol ohono ac mae’n amhosib plesio pawb yn amlwg, ond dw i’n gobeithio bod ni ‘di neud rhywbeth newydd fydd yn para. 

Ychwanegodd Mr Roberts bod 'na "lot o hyblygrwydd" wedi bod yn y trefniant. 

"Dw i ‘di trio gweithio i gryfderau Dafydd a’i lais ond hefyd gwneud rhywbeth sy’n weddol sinematig ar gyfer y sgrîn neith bobl fwynhau," meddai.

"Dw i wedi dod i nabod y gân yn well nag o’r blaen. Dwi wedi dod i nabod yr ail a’r trydydd pennill rhywbeth dydyn ni ddim yn canu’n aml o gwbl, a do’n i ddim yn gwybod y geiriau mor dda â hynny."

Bydd y fersiynau o’r perfformiad ar gael ar sianel YouTube S4C yn dilyn darllediad Cân i Gymru. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.