Parc Cenedlaethol Eryri i efeillio gyda pharc yn Yr Ariannin
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi ei fod wedi derbyn gwahoddiad ar gyfer trefniant gefeillio gyda Pharc Cenedlaethol Los Alerces yn Nhalaith Chubut, Yr Ariannin.
Mae Aelodau’r Awdurdod wedi trafod a chytuno i dderbyn y cynnig mewn egwyddor - ond bydd penderfyniad terfynol ynglŷn â’r cynnig yn cael ei wneud yng Nghyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 30 Ebrill eleni.
Os caiff sêl bendith bydd seremoni arwyddo yn cael ei chynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.
Cyflwynwyd y cynnig gan aelodau o Gymdeithas Gymraeg Trevelin ac Ysgol y Cwm.
Un o’r prif ffactorau wrth ystyried y cynnig oedd y cysylltiad dwfn rhwng Cymru a Phatagonia meddai Awdurdod Parc Eryri.
Dywedodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Mae’r cytundeb gefeillio yma yn mynd at wraidd ein hunaniaeth Gymreig a chyd-werthoedd Eryri a Los Alerces.
"Mae’n ddathliad o deulu rhyngwladol y Parciau Cenedlaethol – undeb o dirweddau a diwylliannau amrywiol sy’n rhannu’r un daliadau tuag at gynaladwyedd, bioamrywiaeth, treftadaeth a chymuned.
"Rydym wedi ein cyffroi gyda’r cynnig i ddatblygu cysylltiad rhyngwladol newydd sydd nid yn unig yn adlewyrchu ein rhinweddau arbennig ond yn ysbrydoli gweledigaeth fyd-eang at gydweithio cadwraethol a diwylliannol”.