Cyn-athro ysgol yn y gogledd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw â phlant
Mae cyn-athro mewn ysgol yn y gogledd wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o bron i 30 achos o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant.
Cafodd Simon Clarke, 46 oed, o Ellesmere Port ei arestio’n wreiddiol ym mis Awst 2023 fel rhan o ymchwiliad gan Dîm Ymchwilio Ar-lein i Gam-drin Plant, o fewn Heddlu Sir Caer.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ar y pryd a rhoddwyd nifer o fesurau diogelu ar waith medd yr heddlu.
Mae’r cyhuddiadau i gyd yn ymwneud â 26 o ddioddefwyr o dan 16 oed a'r honiad yw bod y troseddu wedi digwydd rhwng Tachwedd 2016 ac Ebrill 2023.
Fe wnaeth Mr Clarke ymddangos yn Llys Ynadon Caer ddydd Gwener lle cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae disgwyl iddo ymddangos nesaf yn Llys y Goron Caer ar ddydd Gwener 28 Mawrth.
Mae'r heddlu wedi gofyn i bobl beidio sylwebu ar yr achos na rhannu gwybodaeth ar-lein er mwyn i'r diffynnydd gael achos teg.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi Heddlu Sir Caer i’w gyhuddo o’r troseddau canlynol:
• Un achos o annog plentyn o dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol treiddiol ('penetrative').
• Dau achos o gymell plentyn o dan 13 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol nad oedd yn dreiddiol.
• Dau achos o gymell plentyn o dan 16 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol nad oedd yn dreiddiol.
• 21 cyfrif o gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn o dan 16 oed.
• Gwneud 26 o ddelweddau anweddus o blant Categori A, gwneud 29 o ddelweddau anweddus o blant Categori B, a gwneud 81 o ddelweddau anweddus o blant Categori C
Llun: Llys Ynadon Caer (Google)