
Teulu plentyn a gafodd ei eni ar Ddydd Gŵyl Dewi yn brwydro am lawdriniaeth all achub ei fywyd
Teulu plentyn a gafodd ei eni ar Ddydd Gŵyl Dewi yn brwydro am lawdriniaeth all achub ei fywyd
“Heb y llawdriniaeth yma, fe fydd ein mab yn marw.”
Dyma eiriau tad a mam o Ferthyr Tudful sydd yn dweud eu bod nhw wedi cael gwybod na fydd eu mab yn cael llawdriniaeth y maen nhw'n teimlo sy'n angenrheidiol er mwyn achub ei fywyd.
Fe gafodd Louis Dagger ei eni ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2021, sy’n golygu ei fod yn bedair blwydd oed ddydd Sadwrn. Ond mae'n wynebu dyfodol ansicr.
Cafodd ei eni gyda chyflwr o’r enw Syndrom DiGeorge sy'n gallu arwain at broblemau ar y galon.
Fe achosodd hynny gyflwr atresia ar yr ysgyfaint (pulmonary atresia) gyda VSD – twll rhwng dau o folgelloedd y galon - a MAPCAs – nam ar ei rwydwaith pibellau gwaed, gan olygu ei fod wedi treulio 17 mis cyntaf ei fywyd yn yr ysbyty.
Mae’r cyflyrau hyn yn golygu bod yn rhaid iddo dderbyn llif ocsigen trwy’r dydd a gyda’r nos. Mae wedi cael traceostomi i helpu gyda’i anadlu.
Ar ben hynny, mae wedi derbyn dwy lawdriniaeth ar ei galon er mwyn gosod pibell blastig, yn chwech a saith mis oed.
Cafodd ei rieni, Helen ac Ian Dagger, wybod y bydd yn rhaid i’w mab cael trydedd lawdriniaeth yn ddiweddarach er mwyn gosod pibell mwy o faint wrth iddo dyfu.
Ond deuddydd cyn y Nadolig y llynedd fe gafodd y teulu wybod na fydd eu mab yn cael y llawdriniaeth bellach hwnnw y maen nhw’n teimlo sydd yn angenrheidiol.
“Mae’r llawdriniaeth yn hanfodol,” esboniodd ei dad Ian, wrth siarad â Newyddion S4C. “Hebddo fe fydd e’n marw.”

Tro ar fyd
Y rheswm am hynny, meddai'r teulu, yw ei fod wedi dioddef o anabledd pellach fis cyn ei benblwydd yn un oed, ym mis Chwefror 2022.
Fe gafodd Louis sepsis difrifol, a achosodd ataliad y galon am 20 munud. Fe arweiniodd hynny at anaf i’w ymennydd o ganlyniad i lefel isel ocsigen yn ei waed.
“Mae hyn yn golygu bod ganddo fwy o heriau corfforol, mae ganddo fwy o anabledd,” medd ei fam, Helen.
Ers ei anabledd, maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi amau “fod gan Fryste llai o ddiddordeb o ran cwblhau’r drydedd lawdriniaeth ar ei galon,” medd Helen.

Er gwaethaf eu hamheuon, roedd meddygon pob tro yn lleddfu eu pryderon gan ddweud y bydd y llawdriniaeth yn cael ei chynnal, medden nhw.
Ond dywedodd y teulu eu bod nhw bellach wedi cael gwybod na fydd y llawdriniaeth yn digwydd.
Ni ddaeth hynny i’r amlwg nes cyn y Nadolig, pan ddioddefodd Louis o H1N1, neu ffliw adar.
Wrth geisio mynd i’r afael â’i salwch fe wnaeth ei dîm arbenigol yng Nghaerdydd ddarganfod bod y bibell blastig ar ei galon wedi lleihau.
Fe gysylltodd meddygon yn y brifddinas ag Ysbyty Plant Bryste er mwyn eu diweddaru.
“Dim ond bryd hynny y cawsom wybod bod Bryste eisoes wedi penderfynu peidio â rhoi’r drydedd lawdriniaeth iddo – a heb roi gwybod i ni,” meddai Helen.

‘Risg’
Mae’r teulu bellach yn dweud eu bod nhw’n wynebu “brwydr fwyaf eu bywydau” wrth geisio sicrhau bod eu mab yn byw.
“Da ni’n gwybod y bydd llawdriniaeth ar ei galon yn risg mawr,” meddai ei fam Helen.
“Ond ‘da ni mewn sefyllfa ble mae naill ai’n cael y llawdriniaeth, neu mae’n marw.”
Gyda chymorth cyfreithwyr, mae’r teulu yn ceisio trefnu cyfarfod gyda thimau arbenigol Louis yn Ysbyty Plant Bryste a Chaerdydd.
Maen nhw’n dweud eu bod wedi wynebu oedi a does dim cyfarfod o’r fath wedi ei drefnu hyd yma.
Mae’r rhieni yn dweud eu bod nhw’n teimlo bod meddygon wedi “newid agwedd” tuag at eu mab ers iddo ddioddef yr anabledd pellach a’n gwahaniaethu yn ei erbyn.
Mewn ymateb, dywedodd Dr Rebecca Maxwell, Prif Swyddog Meddygol GIG Bryste: “Byddwn bob amser yn gweithredu er lles ein cleifion.
“Mae tosturi, urddas a pharch wrth wraidd pob penderfyniad rydym yn eu gwneud ar gyfer pobl yn ein gofal.
“Ni fyddai’n briodol trafod manylion penodol am Louis.”
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Fel bwrdd iechyd rydym yn trafod â thîm cyfreithiol y teulu felly ni fyddai’n briodol i fynd i fanylion penodol ar hyn o bryd.”