Newyddion S4C

Bysedd newydd i fam a’u collodd i sepsis

28/02/2025
Bysedd newydd

Mae mam a gollodd ei bysedd i sepsis wedi cael rhai newydd gan feddygon mewn ysbyty yn Abertawe.

Fe gollodd Louise Marshallsay o’r Mwmbwls yn Abertawe ei bysedd ar ôl dioddef sioc septig  yn dilyn cael carreg aren (kidney stone) yn 2022.

Dywedodd y fam 47 oed bod ei bysedd wedi “troi’n biws a glas” a’i bod hi wedi gorfod cael llawdriniaeth i’w tynnu nhw ym mis Medi a Hydref y flwyddyn honno.

Wrth adfer o’i llawdriniaeth gofynnodd i ddoctoriaid Ysbyty Treforys a fyddai modd cael bysedd prosthetig newydd.

“Dwi’n lwcus mai dim ond fy mysedd a bysedd traed oedd e,” meddai.

“Fe allen ni fod wedi colli fy mreichiau a choesau.

“Roedd fy nwylo a'm traed yn ddu. Rwy’n ystyried fy hun yn lwcus iawn, mewn ffordd, mai dim ond pen pella’r bysedd a gafodd eu colli.”

Image
Y bysedd newydd
Louise Marshallsay a'r bysedd newydd

‘Balch’

Bu’n rhaid mynd i labordy arbenigol yn Ysbyty Treforys sy'n creu copïau prosthetig ar gyfer amrywiaeth o rannau o'r corff.

Cafodd pob bys ei gerfio o gwyr i ddechrau, gyda Louise yn cael dweud ei dweud ar fanylion fel yr ewinedd. 

Yna fe wnaethon nhw greu prosthesis silicon, a oedd yr un lliw â chroen Louise.

Un broblem oedd nad oedd ganddi fysedd ar ôl i’w copïo, meddai rheolwr y gwasanaeth Peter Llewelyn Evans.

“Fel arfer fe fydden ni’n cymryd copi o’r bys sydd heb ei ddifrodi ar y llaw arall,” meddai.

“Ond yn yr achos hwn, wrth gwrs, doedd gennym ni ddim byd i weithio arno.”

Sylweddolodd y gwyddonydd clinigol dan hyfforddiant, Kat Gach, fod ei llaw tua'r un maint â llaw Louise. 

“Roeddwn i’n meddwl defnyddio fy mysedd i fel man cychwyn a’i addasu i’r hyn y mae Louise ei angen a’i hoffi,” meddai Kat.

“Fe gymerodd fisoedd, gydag apwyntiadau amrywiol, ac rydw i’n falch iawn gyda’r canlyniad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.