Newyddion S4C

Dim ‘trawma allanol’ yn achos marwolaeth Gene Hackman a’i wraig

28/02/2025
Gene Hackman a Betsy Arakawa

Doedd dim arwydd o drawma allanol ym marwolaeth yr actor Gene Hackman a'i wraig Betsy Arakawa yn ôl canlyniadau archwiliad meddygol yn Santa Fe.

Cyhoeddodd swyddfa sheriff Santa Fe mewn datganiad bod Gene Hackman a’i wraig wedi eu cludo i swyddfa’r Ymchwilydd Meddygol ar 27 Chwefror a bod awtopsi wedi cael ei gynnal.

“Doedd dim arwydd o unrhyw drawma allanol i’r naill unigolyn na’r llall.” meddai llefarydd.

“Mae canlyniadau swyddogol yr archwiliadau post-mortem ac adroddiadau tocsicoleg yn cael eu paratoi, ac nid yw achos eu marwolaeth wedi eu pennu eto” yn ôl Swyddfa’r Sheriff.

Dywedodd Sheriff Sir Santa Fe, Adan Mendoza, mewn cynhadledd i’r wasg fod y pâr wedi “marw ers cryn amser”.

“Nid oedd unrhyw arwydd o aflonyddu” meddai wrth y cyfryngau.

“Doedd dim arwydd o unrhyw beth oedd ar goll o’r cartref neu wedi ei aflonyddu a fyddai’n arwydd bod trosedd wedi digwydd,” ychwanegodd.

Mae merched Hackman, Elizabeth a Leslie a’i wyres Annie, wedi dweud y byddent yn colli Hackman “yn fawr”, a’u bod wedi eu “chwalu gan y golled”.

“Roedd yn cael ei garu a’i edmygu gan filiynau ar draws y byd am ei yrfa actio wych, ond i ni dim ond tad a thaid oedd o bob amser.”

“Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr ac rydym wedi ein chwalu gan y golled.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.