Galw unwaith eto am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc
Mae angen i bobl gael “yr amser i fwynhau” Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru a Dydd Sant Piran yng Nghernyw, yn ôl Liz Saville-Roberts.
Mewn dadl ar y testun ‘Dydd Gŵyl Dewi’, dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd nad yw’r ffaith nad oes gŵyl banc ar gyfer y digwyddiad “yn ein hatal rhag dod at ein gilydd i ddathlu”.
Ond dywedodd y dylai pobol ledled y DU ddathlu seintiau cenedlaethol “gydag egni a brwdfrydedd”.
Nid yw Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth na Dydd Sant Piran ar 5 Mawrth yn wyliau banc.
Nid yw Dydd San Siôr, sy’n cael ei ddathlu yn Lloegr ar 23 Ebrill, yn ŵyl y banc chwaith.
Ond mae pobl yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban yn cael gwyliau banc i nodi diwrnodau gwledd eu seintiau, sef Dydd San Padrig ar 17 Mawrth a Dydd San Andrew ar 30 Tachwedd.
Dywedodd Liz Saville-Roberts, a oedd yn gwisgo cennin pedr wedi’i phinio i’w thop: “Mae’n amser wrth gwrs i ymfalchïo yn ein diwylliant, ein cymunedau, ein hiaith, pob un yn dyst garw i’n gwytnwch fel cenedl.
“Rydym yn genedl o greadigrwydd ac arloesedd… Rydyn ni i gyd yma yn gwybod bod gan Gymru’r dalent, yr adnoddau, y potensial i fod yn fwy na gwych," meddai.
“Ond mae’n bryd bod yn fwy uchelgeisiol, mae’n bryd codi ein gêm.
“Er efallai nad oes gennym ni ŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi eto, nid yw hynny’n ein hatal rhag dod at ein gilydd i ddathlu’r hyn sy’n gwneud ein gwlad mor arbennig.”
'Ar y ffordd'
Fe wnaeth Ben Maguire, AS y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cernyw, ymyrryd yn araith Liz Saville-Roberts gan ofyn a fyddai hi’n cefnogi ei alwadau i wneud Dydd Sant Piran, sef diwrnod cenedlaethol Cernyw yn ŵyl banc hefyd ar 5 Mawrth.
Atebodd Liz Saville-Roberts: “Ie, fe ddylen ni fod yn dathlu ein seintiau rhanbarthol a’n seintiau cenedlaethol gydag egni a brwdfrydedd, a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael pob cyfle ac amser i’w mwynhau.”
Dywedodd AS Llafur dros Orllewin Caerdydd, Alex Barros-Curtis, fod cyllideb Llafur i Gymru yn dangos “grym partneriaeth rhwng dwy lywodraeth yn cydweithio er budd y Cymry”.
Dywedodd: “Mae'n fy nrysu i felly pam y bydd Plaid Cymru yn ymuno â’r Ceidwadwyr i bleidleisio yn erbyn y buddsoddiad hwn yn y gyllideb yr wythnos nesaf."
Ymyrrodd Liz Saville-Roberts i ddweud: “Mae’n gwybod cystal â minnau, mewn termau realistig, nad yw hwn yn gynnydd.
“Rydyn ni’n gwybod bod yna drafferth yn mynd i ddod gyda chyllidebau yn y dyfodol, felly go brin ei bod hi’n briodol canu clodydd y gyllideb hon, gan wybod beth sydd ar ei ffordd.”