Newyddion S4C

Aberystwyth i wynebu'r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG

Sgorio 28/02/2025
Aberystwyth

Nos Wener fe fydd Aberystwyth yn wynebu’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG ar Barc Latham, Y Drenewydd.

Mae’r Seintiau Newydd yn anelu am y trebl domestig eleni gan eu bod yn agos iawn at sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD ac wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru.

Y Seintiau Newydd yw’r clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes Cwpan y Gynghrair (Cwpan Nathaniel MG) gan iddyn nhw godi’r cwpan ar 10 achlysur gan gynnwys y tymor diwethaf pan enillon nhw o 5-1 yn erbyn Abertawe yn y rownd derfynol.

Enillodd y Seintiau’r tlws am bedwar tymor yn olynol rhwng 2014/15 a 2017/18, ac mae cewri Croesoswallt wedi ennill eu naw gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth.

Mae’n stori dra gwahanol i Aberystwyth gan nad ydyn nhw wedi codi’r gwpan yn y gorffennol a dyma eu hymddangosiad cyntaf erioed yn y rownd derfynol. 

Cyrhaeddodd Aberystwyth y rownd gynderfynol yn 2019/20 cyn colli o 2-1 yn erbyn STM Sports o’r ail haen, ac ers hynny doedd y Gwyrdd a’r Duon heb fynd ymhellach na’r drydedd rownd tan eleni.

Mae Aberystwyth yn cael tymor hynod siomedig, yn eistedd ar waelod tabl y Cymru Premier JD ac yn wynebu syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed.

Er hynny, byddai codi Cwpan Nathaniel MG yn ddigwyddiad hanesyddol i’r clwb ac o bosib yn hwb mawr i’r garfan am weddill y tymor. 

Does dim syndod bod y record benben yn ffafrio’r Seintiau gan fod criw Craig Harrison wedi ennill eu chwe gornest ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 11-0 a 6-0 yn Neuadd y Parc.

Mae Aberystwyth yn aelodau gwreiddiol o’r uwch gynghrair ers 1992, ac fe esgynnodd y Seintiau i’r brif haen flwyddyn yn ddiweddarach, ac felly mae’r clybiau wedi cyd-gystadlu yng Nghwpan y Gynghrair ers dros 30 o flynyddoedd, ond yn rhyfeddol dyma’r tro cyntaf ers tymor 1995/96 i’r clybiau gyfarfod yn y gystadleuaeth hon.

Enillodd Aberystwyth yn erbyn Bae Colwyn, Llandudno, Cei Connah a Chaerdydd i gyrraedd y rownd derfynol y tymor hwn, gan guro tîm ifanc Caerdydd ar giciau o’r smotyn yn y rownd gynderfynol.

Mae’r Seintiau wedi trechu’r Fflint, Airbus UK, Y Bala a’r Barri i gyrraedd y rownd derfynol am y 12fed tro yn eu hanes.

Caerfyrddin yw’r unig glwb sydd wedi curo’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair, ac fe ddigwyddodd hynny ar Barc Latham yn nhymor 2012/13 pan enillodd yr Hen Aur ar giciau o’r smotyn ar ôl i’r gêm orffen yn 3-3 wedi amser ychwanegol.

Ers hynny mae’r Seintiau wedi ennill pum rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG gan ildio dim ond unwaith wrth guro’r Bala (3-0), Dinbych (2-0), Y Barri (4-0), Met Caerdydd (1-0) ac Abertawe d21 (5-1).

Bydd y gêm yn fyw arlein a’r uchafbwyntiau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.