Keir Starmer yn Washington i drafod diogelwch gyda Donald Trump
Mae Syr Keir Starmer wedi cyrraedd Washington ar gyfer trafodaethau gydag Arlywydd Donald Trump, a hynny wedi i i Mr Trump greu corwynt gwleidyddol yn yr wythnosau ers dechrau ei ail dymor wrth y llyw yn yr UDA.
Mae disgwyl i Syr Keir Starmer roi pwysau ar Donald Trump i osod camau milwrol mewn lle er mwyn atal Vladimir Putin rhag lansio ymosodiad newydd ar Wcráin os daw cytundeb heddwch rhwng y ddwy wlad.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau yn flaenorol na fyddai’n darparu gwarantau diogelwch “tu hwnt i lawer” i Wcráin, gan fynnu mai mater i wledydd Ewrop oedd amddiffyn y wlad honno.
Mae Syr Keir yn barod i ymrwymo milwyr o Brydain i ymgyrch gadw heddwch yn Wcráin, ond mae’n credu bod addewidion yr Unol Daleithiau yn hanfodol i “atal Putin rhag dod eto”.
Cyn ei sgyrsiau yn y Tŷ Gwyn ddydd Iau, dywedodd Syr Keir ei fod yn gallu ymddiried yn Mr Trump a bod yr Arlywydd yn deall mai Arlywydd Rwsia, Mr Putin, oedd yn gyfrifol am ddechrau'r rhyfel yn Wcráin.
Mae Mr Trump wedi dweud y bydd Volodymyr Zelensky yn ymweld ag o ddydd Gwener i arwyddo cytundeb economaidd a fydd yn cynnwys rhoi hawl i'r Unol Daleithiau i fwynau gwerthfawr Wcráin.
Ond dywedodd Mr Zelensky yn gynharach nad oedd y cytundeb fframwaith yn cynnwys y camau diogelwch gan yr Unol Daleithiau y mae Kyiv yn eu hystyried yn hanfodol.
Mae disgwyl i Mr Zelensky deithio i'r DU dros y penwythnos.
Mae Mr Trump, sydd wedi lansio ymdrechion gyda Rwsia i ddod o hyd i gytundeb heddwch cyflym i ddod â’r gwrthdaro i ben, wedi galw Mr Zelensky yn “unben” ac wedi awgrymu mai ef oedd ar fai am gychwyn y rhyfel.
Ond dywedodd Syr Keir ei bod yn amlwg mai arlywydd Rwsia, Mr Putin, oedd “yr ymosodwr” - ac nad oedd unrhyw dryswch gyda Mr Trump am hynny.
Llun: PA