Cyfarfod i drafod dyfodol campws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan
Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol campws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan yn cael ei gynnal yn y dref ddydd Iau.
Fis diwethaf, daeth cyhoeddiad y bydd cyrsiau’r Adran Ddyniaethau ym Mhrifysgol Llanbed yn cael eu symud i Gampws Caerfyrddin.
Daeth y cyhoeddiad ddiwrnodau ar ôl i dros 100 o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr brotestio i achub y brifysgol o flaen adeilad y Senedd yng Nghaerdydd.
Mae deiseb i achub addysg israddedig y brifysgol ar ôl 200 o flynyddoedd wedi derbyn dros 6000 o lofnodion.
Ar 23 Ionawr, cadarnhaodd Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Peter Mannion, y penderfyniad i symud cyrsiau presennol a dyfodol y Dyniaethau i gampws Caerfyrddin o fis medi 2025.
Dywedodd: “Fel y gwyddoch, mae campws Llambed o bwysigrwydd mawr i’r Brifysgol.”
Ychwanegodd eu bod am ymchwilio i ffyrdd o gynnig “ystod o weithgareddau yn ymwneud ag addysg a fyddai’n dod â bywyd newydd, cynaliadwy i’r campws.”
Bydd y cyfarfod cyhoeddus nos Iau yn cael ei gadeirio gan Elin Jones A.S.
Bydd yr Is-ganghellor yr Athro Elwen Evans KC ac uwch swyddogion yn cyflwyno cyd-destun y penderfyniad diweddar i drosglwyddo darpariaeth y Dyniaethau i Gaerfyrddin.
Dywedodd datganiad gan PCYDDS mai bwriad y cyfarfod “yw parhau â’r ymgysylltu i archwilio ystod o weithgareddau sy’n hyfyw yn economaidd, yn ymwneud ag addysg a fyddai’n dod â bywyd newydd, cynaliadwy i’r campws”
“Does dim dwywaith fod penderfyniad y Brifysgol i drosgwlyddo ei darpariaeth Dyniaethau o Lanbed wedi achosi pryder mawr i ni yma yng Ngheredigion” meddai Elin Jones.
“Ond rwy’n croesawu’r cyfle i weithio gyda’r Brifysgol i edrych i’r dyfodol ac i ddod o hyd i ateb ymarferol er mwyn i ni allu diogelu’r campws.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol y campws i fynychu” ychwanegodd.
Ychwangeodd yr Athro Evans: “Roedd y penderfyniad i symud darpariaeth y Dyniaethau yn anodd ond yn angenrheidiol er mwyn diogelu’r ddisgyblaeth ac amddiffyn profiad myfyrwyr.
“Rydym wedi bod yn glir nad yw’r Brifysgol yn cau campws Llambed ond ei bod wrthi’n chwilio am ffyrdd eraill o ddarparu gweithgareddau sy’n ymwneud ag addysg sy’n rhoi dyfodol mwy sicr iddi.”
“Y cyfarfod cyhoeddus yw’r cam nesaf yn ein proses ymgysylltu, ac rwy’n awyddus i archwilio syniadau ac awgrymiadau gyda’r rhai sydd wedi ymrwymo i lwyddiant campws Llambed a’r Brifysgol yn y dyfodol.”