'Heriau’n parhau' i gyhoeddwyr er bod rhagor o arian y llywodraeth i ddod
Mae Prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru yn dweud bod yr heriau yn parhau i’r sector gyhoeddi yng Nghymru wedi addewid o arian ychwanegol gan y Llywodraeth.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Iau diwethaf y bydd £4.4m y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei roi i gefnogi sectorau’r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru.
Mae'r cyllid newydd yn cynrychioli cynnydd o 8.5% i'r sector o gymharu gyda llynedd.
Nid yw’n eglur ar hyn o bryd sut y bydd yr arian ychwanegol yn cael ei rannu rhwng y sectorau gwahanol.
Dywedodd Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, bod y buddsoddiad “yn dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru”.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, ei bod eisiau cydnabod ei diolch a’i gwerthfawrogiad o ymdrechion Jack Sargeant a’i gydweithwyr i gael yr arian ychwanegol hwn.
“Ond” meddai, “mae’r pwysau o ran cyflogau a chostau yn parhau, a dydi’r setliad hwn ddim yn cyfateb iddo”.
“Dydyn ni dal ddim cweit yn siŵr sut ydan ni am gadw pawb yn eu swyddi achos y pwysau cyflogau” meddai.
Nid yw Cyngor Llyfrau Cymru wedi cael cadarnhad pendant o union swm y cyllid eto,
“Mae’n dipyn bach o conundrum i ni” meddai, “dwi’m cweit yn gwybod lle ‘da ni’n sefyll yn union yn y darlun mawr.”
“Ar un llaw, ‘da ni wedi cael setliad lot lot gwell, ond ar y llaw arall, achos pwysau allanol, ‘da ni’n gwynebu dyfodol ansicr ar hyn o bryd”.
Dywedodd bod unrhyw gynnydd mewn arian yn beth cadarnhaol, “o leiaf ‘da ni’n gwybod bod yna ddim toriad pellach”.
Degawd heriol
Yn ôl Ms Krause, mae’r ddegawd ddiwethaf wedi bod yn un heriol iawn i’r sector gyhoeddi, ac mae wedi cyrraedd ‘pwynt criticial’ i rai o’r gweisg yng Nghymru sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’r costau cynyddol.
“Dwi wedi bod yn y swydd yma ers wyth mlynedd, a hon ydi’r flwyddyn anoddaf i mi ei chael” meddai.
“Mae ‘na gefnogaeth yna, ond dydi o’m yn ddigon - ‘da ni wedi cael toriad o 40% yn y ddegawd ddiwethaf, ac mae popeth yn mynd yn ddrytach, felly mae’r sector gyhoeddi yn chronically underfunded”.
Mae’r arian newydd sydd wedi ei gyhoeddi “yn sicr yn gam bach yn y cyfeiriad iawn” meddai.
Yn ôl Krause, mae’r arian sy’n mynd at y celfyddydau yng Nghymru yn un o’r symiau isaf yn Ewrop.
Dywedodd na fydd y drefn o ddewis i le fydd yr arian yn cael ei ddosbarthu yn newid eleni.
“Mae’n broses agored a chystadleuol” meddai.
“Mae pob grant yn dilyn proses o wneud cais a chael asesiad, ac wedyn un ai’n cael eu derbyn neu eu gwrthod… mae pob rownd yn gystadleuol iawn”.
“Pan mae’r pwyllgor yn edrych ar geisiadau” meddai, “dydi o’m yn fater o os ydi pethau’n haeddu arian – mae bron i bopeth yn haeddu rhyw fath o gefnogaeth, yn enwedig os ydi o’n ddiwylliannol ac yn yr iaith Gymraeg.”
“Does yna ddim digon o arian i allu cefnogi popeth, ac felly mae’r pwyllgorau’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ac wrth gwrs mae hyn yn arwain at siom yn y pendraw i weisg ac awduron.”
“Mae tua 98% o’r llyfrau a chylchgronnau sy’n cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg yn cael eu cyhoeddi gynnon ni, ac mae hynny llai na 200 o lyfrau bob blwyddyn”.
“Dydi llai na 200 o lyfrau ddim yn lot mewn blwyddyn i gefnogi iaith gyfan ac i sicrhau bod pawb yn cael rhywbeth i’w fwynhau… mae ‘na gefnogaeth yna, ond dydi o’m yn ddigon”.
Dywedodd Helgard Krause bod yr arian sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn eu rhoi yn ôl yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw ynddi yn 2023-24 – “da ni’n mynd yn ôl i’r un sefyllfa cyn y toriad”.
“Mae’n wych, oherwydd yn y lle cyntaf, does ‘na ddim toriadau pellach, ac yn ail, mae’n llawer gwell na’r awgrymiad o 3.6% o gynnydd aeth drwy’r budget draft gwreiddiol”.
“Y broblem sydd gennym ni fel sector a chyngor, ydi ers 2023, mae cyflogau wedi cynyddu, costau inflation yn mynd i fyny eto, costau dosbarthu a phapur wedi do di fyny ac mae’r national insurance sy’n do di mewn ar 1af o Ebrill yn bwrw pawb” meddai.