Dyn o Wrecsam wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth
Mae dyn o ardal Wrecsam wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod dros y penwythnos.
Bydd Thomas Iveson, sy'n 30 oed, o Rossett, yn ymddangos gerbron llys ynadon y ddinas ddydd Iau.
Mae ail ddyn gafodd ei arestio yr un pryd wedi ei ryddhau ar fechniaeth tra mae ymholiadau'r heddlu'n parhau
Mae'n dilyn darganfyddiad corff dyn 37 oed mewn ty ar stad Gwynant yn Acrefair ddydd Sul. Dyw'r dyn fu farw ddim wedi ei enwi hyd yma. Mae ei deulu'n derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol yr heddlu