
'Braint' cyflwyno rhaglen ar hanes Cymru ar ôl peidio dysgu amdano yn yr ysgol
'Braint' cyflwyno rhaglen ar hanes Cymru ar ôl peidio dysgu amdano yn yr ysgol
Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru ac anturiaethwr sydd yn dysgu'r Gymraeg yn dweud ei fod "yn fraint" i gyflwyno rhaglen newydd ar S4C sydd yn trafod hanes Cymru.
Richard Parks yw cyflwynydd 24 Awr Newidiodd Gymru, cyfres o raglenni pum munud o hyd sydd yn edrych ar ddigwyddiadau pwysig hanes ein gwlad.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C dywedodd Parks, a chwaraeodd rygbi proffesiynol am 13 mlynedd, nad oedd wedi cael y cyfle i ddysgu am hanes Cymru yn yr ysgol.
"Dwi'n meddwl nawr yn fwy nag erioed, mae deall ein hanes a deall y gwersi sydd wedi cael eu dysgu, yn enwedig ar gyfer cenedlaethau ifanc mor bwysig," meddai.
"Ond pan oeddwn i'n tyfu fyny, a hyd yn oed fel oedolyn ifanc, doedd gen i ddim mynediad i hanes.
"Mae llawer o'r hanes roeddwn i wedi dysgu am yn canolbwyntio ar y DU neu Loegr."

'Caru siarad Cymraeg'
Mae Richard Parks wedi ymddangos ar raglen S4C, Iaith ar Daith, cyfres lle mae enwogyn yn mynd ar daith i ddysgu'r Gymraeg gydag enwogyn arall sydd yn siarad yr iaith yn rhugl.
Wrth dyfu fyny dywedodd Richard nad oedd yn gweld pobl fel fe yn siarad yr iaith, a bod cyflwyno 24 Awr Newidiodd Gymru yn gyfle iddo wneud hynny i'w mab a phobl eraill fel fe.
"Hwn oedd yn brosiect mwyaf dychrynllyd, neu yn sicr yr un mor ddychrynllyd ag unrhyw beth dwi wedi gwneud yn Antartica neu ar y cae rygbi," meddai.
"Ond roedd yr amser yn iawn, roedd y cyfle wedi dod ac roeddwn i eisiau gwneud y mwyaf ohono.

"Dwi'n Gymro balch, ond trwy fy mywyd dydw i heb weld yr iaith yn rhan ohonof a dydw i heb weld eraill oedd yn edrych fel fi yn yr iaith a dyna sut oeddwn i'n teimlo fel am ran fawr o fy mhlentyndod.
"Ond mae'r iaith wedi teimlo fel rhan o fy hunaniaeth oedd ar goll, a pan gafodd fy mab ei eni roedd yn glir i mi fy mod i eisiau iddo dyfu fyny gyda pherthynas gyda'r Gymraeg sydd yn wahanol i fy mherthynas i."
Ychwanegodd: "Dwi eisiau gwneud fy rhan fach i i adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio mwy.
"Explorio ein hanes ni yn ein iaith ni, mae e wedi bod yn un o freintiau mwyaf fy mywyd. Dwi’n caru siarad Cymraeg a dwi’n joio ymarfer a dysgu yr iaith."