Newyddion S4C

Protestio yn Iwerddon am doriadau i gynlluniau'r iaith Wyddeleg

26/02/2025
Protest Gwyddeleg

Mae grwpiau'r iaith Wyddeleg wedi cymryd rhan mewn streiciau ar draws Iwerddon ddydd Mercher mewn protest yn erbyn toriadau.

Mae dros 40 grŵp ar naill ochr y ffin rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon wedi cymryd rhan yn y gweithredu, gan gynnwys yn Nulyn, Belfast, Derry, Galway a Donegal.

Mae rhai yn honni ei bod wedi gorfod penderfynu rhwng talu biliau neu ddarparu gwasanaethau.

Daw’r streic hanner diwrnod yn sgil toriadau o €820,000 (£679,608) i sefydliad Foras na Gaeilge, sydd yn gyfrifol am yr iaith naill ochr i’r ffin.

Bydd y toriadau yn effeithio ar grwpiau’r iaith ar draws ynys Iwerddon, gan arwain at dorri sawl prosiect cymunedol dros y misoedd nesaf.

Yn ôl Padraig O Tiarnaigh, o grŵp Conradh na Gaeilge, mae Foras na Gaeilge wedi  dioddef toriadau  o 45% dros yr ugain mlynedd diwethaf, wedi ystyried chwyddiant.

“Rydyn ni wedi cyrraedd pen ein tennyn,” meddai.

“Mae rhai o’r grwpiau hyn wedi dweud wrthym eu bod bellach yn gorfod dewis rhwng talu am eu gwres neu eu band eang, canslo eu clybiau ieuenctid neu gau eu heiddo yn gyfangwbl.

“Mae bellach yn argyfwng hunaniaeth i grwpiau sydd wedi gwneud llawer iawn o waith i ddatblygu’r Wyddeleg a chynnig gwasanaethau cymunedol hanfodol.”

Dywedodd hefyd fod cyllid ar gael gan Lywodraeth Iwerddon pe bai’r Llywodraeth yn Stormont yn cytuno i fframwaith newydd.

“Rydyn ni’n credu bod yna ateb ar y bwrdd,” meddai.

“Gwyddom fod arian ychwanegol ar gael yn y de, ond ni all yr arian hwnnw gyrraedd Foras na Gaeilge oherwydd y mecanwaith ariannu sy’n gofyn am arian cyfatebol gan Bwyllgor Gwaith y gogledd,” meddai.

“Dros y misoedd diwethaf, cytunodd y ddau weinidog cyllid ar fframwaith newydd i ddiwygio’r berthynas ariannu honno a fyddai’n caniatáu i’r naill Lywodraeth neu’r llall ddarparu cyllid ychwanegol i Foras heb fod angen yr arian cyfatebol gan y llywodraeth arall.

“Mae yna gwestiwn mawr nawr i’r Pwyllgor Gwaith, yn enwedig y DUP, sydd wedi rhwystro, dros y pedwar neu bum mis diwethaf, gynnig i ddiwygio mecanwaith ariannu gogledd/de.

“Dydyn nhw ddim i weld yn fodlon cyllidebu ar hynny, ac mae hynny’n rhoi’r grwpiau yma o dan lawer o bwysau drwy’r toriadau cyllid gan Foras na Gaeilge.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.