Cyhuddo dyn ar ôl i ferch dair oed gael ei lladd wedi gwrthdrawiad rhwng tram a fan
Mae dyn wedi’i gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ar ôl i ferch dair oed gael ei lladd wedi gwrthdrawiad rhwng fan a thram ym Manceinion dros y penwythnos.
Fe fydd Rawal Rehman, 35, o Lambton Road, Manceinion, yn ymddangos yn Llys Ynadon y ddinas ddydd Mercher, meddai Heddlu Manceinion.
Roedd Louisa Palmisano (Lulu), o Burnley, Sir Caerhirfryn, yn cerdded ar Mosley Street, Manceinion pan darodd y fan y tram ac yna’r pafin tua 10.00 ddydd Sadwrn.
Cafodd Lulu ei chludo i’r ysbyty ond bu farw yn fuan wedyn.
“Mae ei habsenoldeb wedi gadael bwlch ofnadwy yn ein teulu,” meddai ei rhieni wrth roi teyrnged iddi.
“Hi oedd ein hunig blentyn, ein byd i gyd.
“Roedden ni’n mwynhau diwrnod allan hapus i'r teulu pan ddigwyddodd y trasiedi erchyll hwn.
“Mae’r boen o’i cholli yn annioddefol, ac rydyn ni’n ei cholli hi’n fwy nag y gall geiriau byth ei fynegi.”