Aston Martin sydd â ffatri yn ne Cymru yn torri 170 o swyddi
Mae’r cwmni ceir Aston Martin sydd â ffatri yn ne Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn torri 170 o swyddi ar draws bob un o adrannau y cwmni.
Fe wnaeth y gwneuthurwr ceir moethus gyhoeddi ei fod yn bwriadu cwtogi 5% o’i weithlu ar draws y cwmni fel rhan o gynllun i dorri costau ar ôl gwerthu llai o geir yn 2024 nag yn 2023.
Problemau gyda’r gadwyn gyflenwi ac oedi mewn cynhyrchu oedd yn gyfrifol am y gostyngiad, yn ôl y cwmni.
Bydd y cwmni Prydeinig, sydd yn enwog am wneud ceir ar gyfer ffilmiau James Bond, yn torri oddeutu 150 o swyddi ym Mhrydain, gyda 20 ychwanegol yn cael eu colli mewn safleoedd tramor.
Mae gan y gwmni bencadlys yn Gaydon, Sir Warwick, yn Lloegr, yn ogystal â ffatri yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg yng Nghymru.
Bydd swyddi yn cael eu colli o bob un adran o fewn y cwmni, gan gynnwys gweithgynhyrchu, swyddi mewn swyddfeydd a rheolwyr.
Dywedodd y cwmni fod y weithred yn un “anodd ond angenrheidiol”, wrth geisio arbed £25 miliwn o gostau.
Dywedodd llefarydd ar ran Aston Martin wrth Newyddion S4C fod ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda staff ar draws y cwmni.
Nid oedd cadarnhad eto ynglŷn â faint o swyddi fydd yn cael eu colli yn y ffatri yn Sain Tathan.
Llun: Aston Martin