Sêl bendith i gael gwared ar doiledau ‘annymunol’ wrth droed yr Wyddfa

Llyn Cwellyn

Mae cynlluniau i ddisodli toiledau “annymunol” wrth droed yr Wyddfa gyda rhai newydd ecogyfeillgar wedi cael sêl bendith awdurdod y parc cenedlaethol.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cytuno i ddisodli'r tair uned doiled symudol sydd ar waith ar hyn o bryd ym maes parcio Llyn Cwellyn yn Rhyd Ddu.

Dywedodd y parc cenedlaethol bod y toiledau presennol yn “annymunol mewn tywydd poeth” ac nad oedd dŵr yn rhedeg yno.

Roedd y cyfleusterau yn “gwbl ddibynnol ar gemegau” i lanhau a chlirio’r arogl oedd yn dod o’r toiledau.

“Mae angen gwasanaeth o leiaf ddwywaith yr wythnos arnynt i wagio’r gwastraff ac ailgyflenwi’r cemegau yn ystod y tymor prysuraf,” meddai adroddiad.

“Mae hyn yn creu ôl troed carbon uniongyrchol ac anuniongyrchol sylweddol wrth gludo gwastraff, trin oddi ar y safle yn ogystal â chynhyrchu a chludo cemegau ar gyfer glanweithdra.”

Image
Cynllun y toiledau newydd
Cynllun y toiledau newydd

Bydd dau doiled newydd, un wedi’i orchuddio â phren, un wedi’i orchuddio â dur, a hefyd wrinalau di-ddŵr allanol.

“Yn seiliedig ar y defnydd presennol, bydd angen gwagio’r tanciau arfaethedig dair gwaith y flwyddyn, sy’n sylweddol llai na’r sefyllfa bresennol,” nododd adroddiad.

Mae’r maes parcio’n darparu lle parcio i ymwelwyr i gael mynediad at lwybr poblogaidd Cwellyn (Snowdon Ranger yn Saesneg) i fyny’r Wyddfa.

Credir mai llwybr Cwellyn, sy’n dechrau ar lannau'r llyn o’r un enw, yw’r cynharaf o’r chwe phrif lwybr i gopa’r Wyddfa.

Mae’n dringo’n raddol i lethrau Moel Cynghorion a throsodd i Fwlch Cwm Brwynog cyn dringo’n serth uwchben Clogwyn Du’r Arddu gan uno yn y pen draw â Llwybr Llanberis i’r copa.

Cafodd y cynlluniau, a oedd wedi cael eu hargymell i'w cymeradwyo, eu derbyn yn y cyfarfod ddydd Mercher, Ionawr 21.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.