Newyddion S4C

Cais dadleuol i droi hen siop bad achub yn Sir Benfro yn giosg bwyd

26/02/2025
Storfa bad achub Dinbych-y-pysgod

Mae disgwyl i gynllun i droi hen siop bad achub yn Sir Benfro yn giosg bwyd tecawê gael ei gymeradwyo fis nesaf er gwaethaf pryderon am "ddifrod sylweddol i amgylchedd hanesyddol".

Mae Ruby Goodrick wedi gwneud cais am ganiatâd gan gynllunwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i droi'r hen siop bad achub Penniless Cove yn Ninbych-y-pysgod yn giosg tecawê.

Byddai'r ciosg yn gwerthu bwyd oer ac ar agor 10.00-22.00 saith diwrnod yr wythnos.

Mae datganiad gyda'r cais yn dweud bod gan Ms Goodrick brydles pum mlynedd gan Gyngor Sir Benfro i ddefnyddio'r safle.

Mae swyddog cadwraeth y parc cenedlaethol wedi rhybuddio am effaith posib busnes newydd ar yr harbwr.

"Mae angen gofal mawr i beidio â chyflwyno defnydd masnachol amhriodol neu lefel annerbyniol o’r fath, mae’r harbwr eisoes yn cael ei wasanaethu gan giosg sy’n gwerthu diodydd poeth a byrbrydau," meddai.

Mae'r cynllun eisoes wedi cael ei feirniadu gan Gymdeithas Ddinesig Dinbych-y-pysgod a chynghorydd sir Gogledd Dinbych-y-Pysgod, Michael Williams.

Ysgrifennodd y Cynghorydd Williams at awdurdod y parc, gan ddweud y byddai caniatáu’r datblygiad yn "gwneud difrod sylweddol i amgylchedd hanesyddol ystâd yr harbwr sy’n adeilad rhestredig Gradd II".

Tynnodd sylw at y ffaith mai dyma'r unig ran o'r harbwr lle mae 'na bysgota masnachol.

"Byddai union natur y gwaith hwn yn gwbl anghydnaws â’r cynnig hwn," meddai'r Cynghorydd Williams.

"Fy mhryder arall yw y gallai cynsail gael ei greu sy’n agor yr ardal hanesyddol amhrisiadwy hon i ecsbloetio masnachol annerbyniol ac anaddas."

Mae Cymdeithas Ddinesig Dinbych-y-pysgod wedi dweud yn flaenorol mai un o bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol yw cadw'r harbwr yn weithredol.

'Dim niwed arwyddocaol'

Mae’r cynllun bellach yn cael ei argymell ar gyfer cymeradwyaeth amodol yng nghyfarfod pwyllgor rheoli datblygu’r parc cenedlaethol ar 5 Mawrth.

Daw'r cais gerbron aelodau'r pwyllgor yn hytrach na swyddogion gan fod Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod wedi gwrthwynebu.

Mae'r pwyllgor yn argymell caniatáu'r cynllun, er ei fod yn tynnu'n groes i'r cynllun datblygu mabwysiedig.

Dywedodd adroddiad swyddog sy’n argymell caniatáu'r cynllun: "Er ein bod yn cydnabod y byddai’r defnydd yn cyflwyno elfen adwerthu i’r rhan yma o’r harbwr, ar ôl pwyso a mesur, mae swyddogion yn ystyried na fyddai'n achosi niwed arwyddocaol i gymeriad Harbwr Dinbych-y-pysgod.

"Byddai'n defnyddio arwynebedd llawr cymharol fychan, ac ni fyddai’n gyrchfan ynddo’i hun.

"Yn hytrach, byddai’n dibynnu ar yr ymwelwyr presennol o fewn yr harbwr."

Ychwanegodd: "Ar y cyfan, mae’r bwriad yn cael ei ystyried yn dderbyniol, ac oherwydd hynny rydym yn argymell rhoi caniatâd, ar ôl i’r hysbysiad i’r wasg ddod i ben, ar yr amod na fydd unrhyw ystyriaethau materol newydd yn cael eu codi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.