Tony Blair ymhlith yr enwau ar 'Fwrdd Heddwch' Gaza

17/01/2026
Tony Blair

Mae’r Tŷ Gwyn wedi cyhoeddi fe fydd cyn-brif weinidog y DU Syr Tony Blair yn un o aelodau "Bwrdd Heddwch" ar gyfer Gaza.

Fe fydd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Marco Rubio, llysgennad Trump ar gyfer y Dwyrain Canol, Steve Witkoff, a mab-yng-nghyfraith yr arlywydd, Jared Kushner, hefyd yn eistedd ar y "bwrdd gweithredol", meddai'r Tŷ Gwyn.

Fe fydd yr Arlywydd Donald Trump yn gweithredu fel cadeirydd y bwrdd, sy'n rhan o'i gynllun 20 pwynt i ddod â'r rhyfel rhwng Israel a Hamas yn Gaza i ben.

Disgwylir i’r bwrdd oruchwylio rhedeg Gaza dros dro a rheoli ei hailadeiladu.

Hefyd ar y bwrdd gweithredol sefydlu mae Marc Rowan, pennaeth cwmni ecwiti preifat, pennaeth Banc y Byd Ajay Banga a chynghorydd diogelwch cenedlaethol yr Unol Daleithiau, Robert Gabriel.

Bydd gan bob aelod bortffolio "sy'n hanfodol i sefydlogi a llwyddiant hirdymor Gaza", meddai datganiad gan y Tŷ Gwyn.

Fe fydd aelodau pellach o'r bwrdd yn cael eu henwi yn yr wythnosau nesaf, ychwanegodd y Tŷ Gwyn.Roedd Syr Tony Blair yn brif weinidog y DU o 1997 i 2007 ac arweiniodd y DU i Ryfel Irac yn 2003.

Ar ôl gadael y swydd, fe wasanaethodd fel llysgennad y Dwyrain Canol ar gyfer y Pedwarawd o bwerau rhyngwladol (yr Unol Daleithiau, yr UE, Rwsia a'r Cenhedloedd Unedig).

Dywedodd Syr Tony Blair ddydd Sadwrn ei fod wedi ei “anrhydeddu” i fod yn rhan o Fwrdd Heddwch Donald Trump.

Dywedodd: “Rwy’n diolch i’r Arlywydd Trump am ei arweinyddiaeth wrth sefydlu’r Bwrdd Heddwch ac mae’n anrhydedd i mi gael fy mhenodi i’w fwrdd gweithredol.

“Mae wedi bod yn fraint wirioneddol gweithio gyda Steve Witkoff a Jared Kushner a’u tîm rhagorol.

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw a chydweithwyr eraill yn unol â gweledigaeth yr arlywydd i hyrwyddo heddwch a ffyniant.

"Dywedodd fod cynllun 20 pwynt yr arlywydd ar gyfer Gaza yn “gyflawniad eithriadol” a bydd ei weithredu yn cymryd “ymrwymiad a gwaith caled aruthrol”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.