
‘Pwynt anhygoel’: Cymru yn profi eu bod yn gallu cystadlu gyda’r gorau
Mae rheolwr Cymru, Rhian Wilkinson, yn dweud bod y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Sweden nos Fawrth yn profi bod y tîm yn gallu cystadlu gyda’r gorau yn y byd.
Fe wnaeth cic o’r smotyn yn yr ail hanner gan Kayleigh Barton sicrhau pwynt i’r Cymry yn erbyn y cewri o Sgandinafia, sydd yn bumed ar restr detholion y byd FIFA.
Daw ar ôl i ymosodwr Real Madrid, Filippa Angeldahl, rhoi’r tîm oddi cartref ar y blaen yn gynnar yn yr hanner cyntaf yn y gêm yng Nghynghrair A cystadleuaeth Cynghrair Cenhedloedd UEFA.
Bydd y canlyniad yn rhoi hyder i'r tîm yn ôl eu rheolwr Rhian Wilkinson, a hynny cyn iddyn nhw wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn rowndiau terfynol Euro 2025 dros yr haf.
"Ydi mae’r pwynt yn un anhygoel, ond mae’r gallu i ddefnyddio’r garfan gyfan ac ymddiried yn y chwaraewyr i berfformio dros eu gwlad ac ennill pwynt yn erbyn un o pum tîm gorau’r byd yn wych, yn amlwg," meddai Wilkinson ar S4C.
"Ond roedd o am y perfformiad heno, ac mae hynny’n rhywbeth dw i’n falch iawn ohono.

"Mae’r tîm yma yn dda - dw i’n dweud wrthyn nhw yn aml eu bod yn dda.
"Ond mewn gemau fel hyn, maen nhw’n profi i’w hunain pa mor dda y'n nhw, a dyna yw’r peth pwysicaf."
Ychwanegodd: "Sut ydyn ni’n parhau i gredu bod ni yng Nghynghrair A am reswm, a’n bod ni wedi ennill yr hawl i fod ar y cae?
"Mi fydd 'na gemau fel hyn lle fyddan ni ddim yn cael y mwyafrif o’r meddiant, ond fe wnaethon ni aros yn y gêm, aros yn gryf ac mae am fanteisio ar eiliadau a gwneud iddyn nhw gyfri’ - a dyna ddigwyddodd."
Roedd dros 6,000 o bobl yn gwylio’r gêm yn y Cae Ras yn Wrecsam, sef y dorf fwyaf i gêm tîm menywod Cymru y tu allan i Gaerdydd.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1894496703392174353
Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru, Gwennan Harries: "Chwarae teg i’r merched, oddan nhw wedi aros yn y gêm, aros yn gystadleuol, ac wedyn pan oedd yr adeg fawr gyda ni, wnaethon ni gymryd y cyfle. Oeddwn i’n falch iawn o’r merched a pherfformiad calonogol iawn.
"Bydd Rhian Wilkinson wedi dysgu llwyth am y chwaraewyr a fi’n rili hoffi’r ffaith bod hi wedi rhoi cyfleoedd i’r chwaraewyr."
Ychwanegodd cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Owain Tudur Jones: "Mae’n sbesial. Ac mae’n sbesial bod cefnogwyr gogledd Cymru 'di cael dod allan a gwylio hynna.
"Os ‘sa ni di colli o gôl i ddim, sa hynny wedi bod yn ganlyniad parchus. Ond i gael y gôl 'na, a gael rhywbeth i’r merched a bechgyn ifanc gael mynd adra a cofio, mae’n hynod, hynod bwysig.
"Mae o just yn setio ni i fyny ar gyfer y gemau nesa, paratoi ar gyfer yr Euros, ac mae’r hyder yn codi.
"Oedd 'na lot o newidiadau, ond maen nhw dal di gallu cael canlyniad positif. Gwych."