Newyddion S4C

Atyniadau twristiaeth Cymru i gau ar Ddydd Gŵyl Dewi fel rhan o brotest

26/02/2025
Fferm Ffoli / Zip World

Bydd rhai o atyniadau amlycaf Cymru yn cau a gostwng baneri i hanner mast ar Ddydd Gŵyl Dewi fel rhan o brotest yn erbyn “polisïau gwrth-dwristiaeth” gan Lywodraeth Cymru.

Fis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth atyniadau sydd yn rhan o Gymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru (CAYA) gau am ddiwrnod mewn streic yn erbyn polisïau’r llywodraeth.

Mae CAYA yn dweud bod polisïau, gan gynnwys y dreth ar ymwelwyr, yn “dinistrio’r diwydiant twristiaeth” ac yn arwain at ostyngiad mewn niferoedd o ymwelwyr.

Mae dros 100 o fusnesau yn rhan o CAYA, gan gynnwys Oakwood, Fferm Ffoli, Zip World, a rheilffyrdd Yr Wyddfa, Tal-y-llyn, Mynydd y Bannau a Rheilffordd y Graig Aberystwyth.

Ddydd Sadwrn 1 Mawrth, fe fydd y corff yn cynnal ail brotest er mwyn ceisio gorfodi’r llywodraeth i “newid cyfeiriad a dechrau cefnogi twristiaeth yng Nghymru”.

Fe fydd aelodau sefydliad Twristiaeth Gogledd Cymru a Chymdeithas Broffesiynol hunan arlwywyr yng Nghymru yn ymuno â’r weithred ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Dywedodd Ashford Price, llefarydd ar ran CAYA a pherchennog atyniad Dan yr Ogof, bod y corff yn “brwydro dros ddyfodol twristiaeth” ar ôl gostyngiad diweddar o 23% yn nifer yr ymwelwyr dros nos.

"Mewn sawl rhan o Gymru twristiaeth yw'r prif ddiwydiant, ac os bydd twristiaeth yn cael ei adael i barhau i ddirywio, does dim byd i gymryd ei le, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru".

'Cryfhau gwrthwynebiad'

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried rhoi'r hawl i gynghorau godi tâl o £1.25 y noson fel rhan o ardoll ar ymwelwyr o 2027 ymlaen.

Byddai'n effeithio ar bobl sydd yn aros mewn gwestai, gwely a brecwast, a llety hunan-arlwyo.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi amddiffyn y cynllun, gan ddweud na fyddai’n “effeithio ar nifer yr ymwelwyr”. 

Ond dywedodd Jim Jones, Prif Swyddog Gweithredol Twristiaeth Gogledd Cymru, fod y llywodraeth wedi “anwybyddu” pryderon y diwydiant.

“Dros amser, mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi cael effaith ddinistriol ar ein sector, gan wneud llawer o fusnesau yn ei chael hi'n anodd ac yn anhyfyw,” meddai.

“Er gwaethaf ymdrechion dro ar ôl tro i ymgysylltu trwy sianeli arferol, mae ein pryderon wedi'u hanwybyddu. 

"O ganlyniad, rydym yn cryfhau ein gwrthwynebiad ac yn galw ar fusnesau i ymuno â ni mewn gweithred symbolaidd o ostwng baneri i hanner mast, gan adlewyrchu'r difrod sylweddol i sector oedd ar un tro yn un o’r rhai cryfaf a mwyaf sefydlog yng Nghymru.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i fywyd Cymru. Rydym am sicrhau ei gynaliadwyedd hirdymor.

“Fel y nodir yn y Bil, byddai’n rhaid i unrhyw arian a godir gael ei ail-fuddsoddi yn yr ardal leol i ddarparu a gwella gwasanaethau i ymwelwyr a thrigolion.

“Defnyddir ardollau ymwelwyr yn llwyddiannus mewn sawl rhan o’r byd, gan gynnwys Manceinion, Gwlad Groeg a’r Almaen.

“Mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll yn eu hardal ar ôl ymgynghori â thrigolion a busnesau lleol.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.