Elfyn Evans: Ai dyma flwyddyn y dyn o Ddinas Mawddwy?
“Mae’n anhygoel meddwl bod 'na foi o Ddinas Mawddwy yn gallu ennill Pencampwriaeth y Byd dydi. Mae o’n eitha’ sbesial.”
Gyda’r gyrrwr rali Elfyn Evans yn wynebu rhai o ddyddiau pwysicaf ei yrfa hyd yma, mae cyfaill sydd wedi bod wrth ei ochr ers ei flynyddoedd cynnar yn dweud bod “Cymru gyfan y tu ôl i Elfyn”.
Gyda thymor Pencampwriaeth Rali’r Byd yn cyrraedd ei derfyn yn Saudi Arabia'r wythnos hon, mae Evans, 36 oed, yn arwain y ffordd ym mhencampwriaeth y gyrwyr.
Pe bai'n dal ei afael ar ei safle ar y brig, Evans fyddai'r Cymro cyntaf i ennill y bencampwriaeth hon.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd yr arbenigwr rali Howard Davies, sydd wedi bod yn ffrind teuluol agos ers degawdau: “Mae Elfyn di bod yn y bencampwriaeth ers ryw 15 years rŵan, felly mae lot o brofiad ganddo fo.
"Mae o di ennill lot o ralis yn y gorffennol, mae 'di neud ei waith. Mae o’n haeddu hwn rŵan.”
Ond mae’r her sy’n wynebu’r tad i dri o Feirionydd yn ystod dydd Iau, dydd Gwener a bore Sadwrn, yn un sylweddol.
Tri phwynt yn unig y tu ôl iddo ef a'i gyd-yrrwr o Loegr, Scott Martin, mae’r Ffrancwr sydd wedi ennill y bencampwriaeth wyth gwaith yn ystod ei yrfa, Sébastien Ogier, yn yr ail safle ar hyn o bryd.
Mae’r gŵr o’r Ffindir a’r cyn-bencampwr WRC, Kalle Rovanperä, hefyd yn gobeithio hawlio’r darian, ac yntau yn drydydd ar ddechrau’r rali.
Mae’r tri yn gyrru dros y tîm sydd yn dominyddu’r gamp ar hyn o bryd, Toyota Gazoo Racing – wrth iddyn nhw gystadlu mewn rali sydd yn newydd i gylchdaith byd eang y WRC, Rali Saudi Arabia.
Ar ddiwedd cymal agoriadol y rali yn Jeddah nos Fercher, fe orffennodd Evans yn bumed, lai nag eiliad y tu ôl i Ogier, a orffennodd yn ail.
“Mae’n rali newydd felly does neb yn nabod o," ychwanegodd Mr Davies.
“Mae’r car a’r teiars yr un peth i’r tri, felly dwi’n meddwl bod ganddo fo andros o siawns da. Ac mae pawb yng Nghymru tu ôl iddo fo.”
'Licio cystadlu'
Yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, mae Howard Davies wedi bod yn sylwebydd ar gyfres Ralïo ers dros ddegawd.
Ond cyn hynny, daeth Mr Davies, o Fachynlleth, yn adnabyddus yn y byd ralio fel cyd-yrrwr medrus, gan ennill y Bencampwriaeth Brydeinig yn 1996 wrth dywys y gyrrwr Gwyndaf Evans – sef tad Elfyn.
“Dwi’n nabod Elfyn ers bod o di gael ei eni rili,” meddai Howard.
“Oedd o eisiau dilyn Gwyndaf ac oedd yn dysgu gyrru ers yn blentyn bach, gan ei daid. Roedd o just eisiau dilyn ei dad. Mae’n dda iawn ar fotor-beic hefyd i ddeud y gwir, mae'n good all round sportsperson.
“Mae o just yn licio cystadlu ac mae’n cael hynny o’r teulu. Roedd ei gyfnither Elen yn chwarae rygbi i Gymru hefyd felly mae ‘na competitive streak yn y teulu.”
Mae Elfyn wedi gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd mewn pedwar tymor ers 2020. Er ei fod yn berson sydd ddim yn chwilio am sylw, yn ôl Howard, mae o’n benderfynol o fynd un cam ymhellach.
“Dio ddim yn licio’r spotlight, dio ddim yn foi brash na’n superstar, ond mae o’n superstar yn y gamp.
“Di unrhyw berson sy’n ennill neu’n cystadlu am World Championship, di nhw ddim yn normal fel ti a fi. Maen nhw’n 100% yn y gamp, 24/7, a dyna mae Elfyn di neud.
“Ond mae ganddo deulu bach, his feet are firmly on the ground.”
Ac fe fydd ei dad yng nghwmni aelodau o’i deulu estynedig a ffrindiau a fydd yn cefnogi Elfyn yn y Dwyrain Canol dros y dyddiau nesaf.
“Dwi'n meddwl bod Gwyndaf yn fwy excited na Elfyn i ddeud y gwir!” ychwanega Howard.
Beth sydd angen Elfyn ei wneud i ennill?
Mae’r system sgorio ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd yn un “gymhleth” meddai Howard.
Felly beth sydd angen ar Elfyn i ennill y bencampwriaeth?
Bydd enillydd y rali yn cipio 25 pwynt, gyda’r gyrwyr yn y safleoedd o ail i bumed yn hawlio 17 pwynt, 15 pwynt, 12 pwynt a 10 pwynt.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1993725436648427903?s=20
Ond mae pwyntiau ychwanegol ar gael i’r pum tîm cyflymaf ar ddiwrnod olaf y rali, o bum pwynt i’r enillydd, lawr i un pwynt i'r pumed.
Mae’r un nifer o bwyntiau yn cael eu rhoi i’r pump cyflymaf yng nghymal olaf y rali – sef y Cymal Cyffro - yn ogystal.
“Mae’r scoring yn complicated, ond mae’n bwysig bod Elfyn yn ennill Ogier, a falle dim mor serious, Rovanperä hefyd.
"Ond efo’r pwyntiau ychwanegol, mae’n bosib i Elfyn ennill neu colli’r bencampwriaeth ar y cymal olaf un, y Cymal Cyffro.”
“So fydd o ddim drosodd tan y diwedd un,” ychwanegodd Howard.
Bydd y Cymal Cyffro yn cael ei ddarlledu’n fyw gan Ralïo ar S4C am 10.00 fore Sadwrn.
Prif Lun: Toyota Gazoo Racing