'Rili emosiynol': DJ yn derbyn caniatâd gan Dafydd Iwan i ryddhau fersiwn newydd o Yma o Hyd
Mae DJ yn dweud ei fod yn "emosiynol" ar ôl derbyn caniatâd gan Dafydd Iwan i ryddhau ailgymysgiad (remix) o'i gân Yma o Hyd.
Wythnos yma, fe wnaeth y DJ a'r cynhyrchydd o Bontypridd, Vampire Disco - sef Alun Reynolds - gyhoeddi ailgymysgiad o'r gân enwog.
Cyhoeddodd fideo o'i gân newydd ar TikTok, gyda sawl un yn dweud ei bod yn "anthem clwb newydd Cymru."
Penderfynodd Alun ryddhau'r gân yn llawn ar ôl ei chwarae i'w ffrindiau.
"Nes i weld pobl yn neud sŵn mawr am y remix The Glen, cân o’r Alban, ar TikTok," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ma' DJ ‘ma 'di neud remix o’r cân yma sy’n fawr iawn yn yr Alban, a o’n i fel ‘pam bod neb ‘di neud remix mawr o Dafydd Iwan, Yma o Hyd?’
"Felly nes i dechrau gweithio arno fe gyda llais Dafydd Iwan a o’dd e ddim yn gweithio, felly o’n i’n meddwl, 'be allai neud?'
"Ond wedyn nes i ffeindio mix o’r can gan Clwb Cymru, a meddwl bod y bît yna yn gallu gweithio.
"Felly nesi ddanfon e i cwpl o ffrindiau ac o’n nhw fel ‘Al, ma’ rhaid ti rhyddhau hyn'."
'Hollol nyts'
Cafodd Yma o Hyd ei recordio gan Dafydd Iwan a'r band gwerin Ar Log ym 1983, gyda'r neges o ddathlu goroesiad yr iaith a'r diwylliant Cymraeg dros y canrifoedd er gwaethaf ymdrechion i'w thramgwyddo.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Yma o Hyd fel pe bai wedi dod yn ail anthem genedlaethol Cymru wrth iddi gael ei chwarae o flaen cynulleidfa ehangach mewn gemau pêl-droed Cymru.
Er mwyn i Alun Reynolds allu rhyddhau'r gân, roedd angen iddo gael caniatâd gan Dafydd Iwan.
Ar ôl e-bostio Mr Iwan er mwyn cael ei sêl bendith i ddefnyddio ei gân ar ei drac newydd, roedd Alun wedi synnu gan yr ymateb.
"Nesi fynd i PYST, sy’n rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg, a wedon nhw bydd rhaid i fi gael caniatâd gan Dafydd Iwan," meddai.
"Felly o’dd rhaid fi e-bostio the main man himself.
"Pan nath e ymateb, o’dd e fel awr ar ôl i fi ddanfon yr ebost, o’dd e’n nyts.
"Dywedodd e, ‘Annwyl Alun, diolch am dy waith yn rhoi bywyd newydd i’r hen gân. Pob rhyddid i ti fynd a hi pellach.’
"Ma’n hollol nyts a rili emosiynol. Fi ‘di rhyddhau caneuon am blynyddau ond wedi neud bach o comeback nawr gyda stwff newydd.
"Ac i gael bendith Dafydd Iwan, mae e jyst yn bonkers. Un o legends mwyaf Cymru yn rhoi bendith i ti, ydy hwn yn go iawn, ydw i’n breuddwydio?"
Ailgymysgu mwy o ganeuon Cymraeg?
Ers rhyddhau clip o'r gân ar TikTok mae'r fideo wedi derbyn miloedd ar filoedd o wylwyr ac wedi cael e cihwarae mewn rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y genedl.
Cafodd ei chwarae yn ystod gêm rygbi Cymru yn erbyn Japan, ac mae tîm pêl-rwyd Cymru wedi ei defnyddio ar gyfer eu gemau yn erbyn Zimbabwe.
Wedi'r llwyddiant o adfywio un o glasuron cerddoriaeth Cymraeg, mae Alun yn bwriadu trawsnewid mwy o ganeuon Cymraeg i anthemau clwb.
"Ma ‘na cwpl o syniadau ‘da fi nawr, falle nai neud mwy o hen ganeuon Cymraeg," meddai.
"Falle nai neud rhywbeth gyda Dacw ‘nghariad, Parti’r Ysbrydion gan Huw Chiswell, falle nai ofyn i Eden os allai pwmpo lan Paid â Bod Ofn neu rywbeth.
"Dyna’r ffordd, rhoi bywyd newydd i’r hen ganeuon ‘ma."
Bydd y gân newydd ar gael i’w lawrlwytho a’i ffrydio ar bob prif blatfform ffrydio ddydd Gwener.