Gwaith plymio diffygiol yn achosi 'llygredd sylweddol' i afonydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw am godi'r ymwybyddiaeth o lygredd dŵr sy'n cael ei achosi gan offer cartref sydd wedi eu cam-gysylltu o achos gwaith plymio anghywir.
Wedi sawl adroddiad o lygredd a oedd yn effeithio ar Afon Taf ger Heol Mynachdy yng Nghaerdydd ac Afon Elai ger Llanfihangel-ar-Elái, fe wnaeth ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddatgelu mwy na 30 achos o bibellau dŵr wedi eu cysylltu yn anghywir.
Roedd y rhain yn cynnwys peiriannau golchi, toiledau, sinciau, ac estyniadau cartrefi wedi'u cysylltu'n anghywir â'r rhwydwaith dŵr wyneb yn hytrach na'r system garthffosiaeth.
Fe wnaeth hyn ganiatáu i ddŵr gwastraff heb ei drin lifo'n uniongyrchol i afonydd, gan achosi llygredd a niweidio ecosystemau.
Fe wnaeth swyddogion olrhain ffynonellau'r llygredd drwy wirio gollyngfeydd dŵr wyneb cyfagos sy'n gollwng i'r afonydd.
Ar ôl gweld dŵr llygredig llwyd o amgylch y gollyngfeydd, roeddent yn gwybod fod y llygredd yn debygol o fod wedi cael ei achosi gan ddŵr gwastraff.
Dywedodd Swyddog Amgylchedd CNC, Alex Grainger: "Mae camgysylltiadau yn ffynhonnell gudd ond sylweddol o lygredd a gall gwallau plymwaith mewn cartrefi gael effaith sylweddol ar ein hafonydd.
“Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o’r mater hwn a helpu i ddatrys y problemau hyn er mwyn amddiffyn ansawdd y dŵr yn ein hafonydd a’n bywyd gwyllt."
Ychwanegodd CNC eu bod yn cydweithio gyda Dŵr Cymru i roi gwybod i berchnogion eiddo a sicrhau bod mesurau cywirol yn cael eu cymryd.
Mae llythyrau'n cael eu hanfon i gartrefi er mwyn datrys y problemau yn brydlon yn ôl y corff.