Treth etifeddiaeth: Tro pedol y Canghellor 'ddim yn mynd yn ddigon pell'

Aled Jones

Mae undeb amaeth wedi dweud nad yw newidiadau i bolisi treth etifeddiaeth amaethyddol Llywodraeth y DU yn mynd yn ddigon pell.

Yn yn ei Chyllideb gyntaf flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves gynllun i drethu asedau amaethyddol gwerth mwy na £1m ar gyfradd o 20%, gan arwain at brotestio eang gan ffermwyr.

Eu dadl oedd y byddai hyn yn arwain at orfodi ffermwyr i werthu eu ffermydd teuluol yn y pen draw, er mwyn talu'r dreth.

Ond fe wnaeth y Canghellor dro pedol yn ei Chyllideb ddiweddaraf ddydd Mercher - gan ddweud y byddai modd trosglwyddo'r trothwy treth o £1m rhwng parau priod os byddai un yn marw.

O ganlyniad, os byddai ffermwr priod yn marw, ni fyddai'n rhaid iddo ef neu hi adael £1 miliwn o asedau amaethyddol i'w blant neu phlant. 

Trosglwyddo

O dan y newid, byddai modd trosglwyddo'r trothwy treth - gyda'u partner yn gallu defnyddio £1 miliwn eu cymar, yn ogystal â'u £1 miliwn eu hunain, i'w roi i'w plant ar eu marwolaeth. 

Nid yw'r tro pedol yma'n mynd yn ddigon pell yn ôl undeb NFU Cymru. 

Dywedodd llywydd yr undeb, Aled Jones: “Rwy'n cydnabod y bydd y newid a gyhoeddwyd yn helpu nifer gyfyngedig o ffermwyr, ond nid yw'n lleddfu effaith ddinistriol y polisi hwn i lawer.

“Wrth wneud y newid hwn, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod yn y bôn fod camgymeriadau wedi'u gwneud yn y ffordd y cynlluniwyd y polisi hwn. Rwy'n croesawu'r ffaith eu bod yn ymddangos yn cydnabod y camgymeriadau hyn, ond nid yw'r cam y maent yn ei gymryd yn mynd yn ddigon pell i leihau'r difrod y bydd y polisi hwn yn ei wneud i ffermydd teuluol Cymru, ein cymunedau gwledig, yr iaith Gymraeg a'n diwylliant."

'Torcalonnus'

Ychwanegodd Mr Jones: “Dros y 12 mis diwethaf neu fwy, mae rhai straeon gwirioneddol dorcalonnus wedi cael eu rhannu gyda mi am ffermwyr oedrannus neu’r rhai sydd wedi cael diagnosis o afiechydon terfynol, sydd wedi trefnu eu materion yn ddidwyll ar y sail na fyddai eu hystadau’n destun treth etifeddiaeth. 

"Mae’r ffermwyr hyn bellach yn cael eu dal yng nghanol y polisi hwn heb unrhyw amser ar ôl iddynt wneud trefniadau olyniaeth amgen. 

"Mae’r effaith acíwt hon ar yr henoed a’r rhai sy’n dioddef o salwch terfynol yn parhau i fod yn bryder enfawr, ac ar eu cyfer nhw, yn benodol, rydym yn parhau i ymladd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.