Tân Hong Kong: Arestio tri wrth i gannoedd barhau i fod ar goll
Mae'r awdurdodau yn Hong Kong wedi arestio tri dyn yn dilyn tân difrifol mewn blociau o fflatiau ddydd Mercher.
Cafodd 44 o bobl eu lladd yn y tân yn adeiladau Llys Wang Fuk, ac mae 279 o bobl yn parhau i fod ar goll.
Mae disgwyl i nifer y meirwon gynyddu yn ystod dydd Iau.
Mae'r dynion sydd wedi eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad yn gweithio i gwmni oedd yn cynnal gwaith ailddatblygu ar y safle.
Roedd yr adeiladau wedi eu gorchuddio gyda sgaffaldiau bambŵ a gorchuddion plastig cyn y digwyddiad.
Mae'r tân bellach dan reolaeth er bod rhannau o'r adeiladau'n dal i fudlosgi.
Mae Llys Wang Fuk yn gartref i dros 4000 o bobl, ac mae yn ardal Tai Po o Hong Kong.
Mae grŵp ymgyrchu dros ddioddefwyr trychineb Grenfell wedi rhannu neges o gefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn y tân.
Dywedodd Grŵp goroeswyr Grenfell United, gafodd ei sefydlu yn dilyn marwolaethau 72 o bobl yn Nhŵr Grenfell yn Llundain yn 2017:
"Mae ein calonnau'n mynd allan at bawb a effeithiwyd gan y tân erchyll yn Hong Kong.
"I'r teuluoedd, ffrindiau a chymunedau, rydym yn sefyll gyda chi. Nid ydych chi ar eich pen eich hun."
Mae'r awdurdodau yn Hong Kong wedi cyhoeddi y bydd archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal mewn tyrau sydd yn gartrefi i gymunedau ar y penrhyn yn dilyn y tân.
Llun: REUTERS/Tyrone Siu
