Disgwyl gorwariant o £4m ar gynllun amddiffyn arfordir Aberaeron
Mae disgwyl gorwariant o £4 miliwn i'r cynllun i amddiffyn arfordir Aberaeron, yn ôl adroddiad newydd gan Gyngor Sir Ceredigion.
Ym mis Medi fe wnaeth Newyddion S4C ddatgelu bod gorwariant o £2.5 miliwn wedi bod ar y cynllun sydd newydd ei gwblhau, ond mae disgwyl i'r gost derfynol gyrraedd £4 miliwn yn ôl amcangyfrif diweddaraf swyddogion yr awdurdod.
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo yn 2023, gyda'r gost yn wreiddiol i fod yn £31.6 miliwn.
Roedd hyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (£26.85m) a Chyngor Sir Ceredigion (£4.74m).
Daeth y gwaith i ben ar y safle ym mis Hydref eleni, a hynny 43 o wythnosau yn hwyrach na'r dyddiad cwblhau gwreiddiol.
Mewn adroddiad fydd yn cael ei drafod gan gabinet y cyngor ddechrau mis Rhagfyr, mae swyddogion yn nodi fod disgwyl gorwariant o £4 miliwn ar y cynllun i amddiffyn yr arfordir rhag effeithiau newid hinsawdd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C mai Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am gynllun rheoli risg arfordirol y dref.
'Cwestiynau mawr'
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Elizabeth Evans, y cynghorydd lleol dros Aberaeron ar Gyngor Sir Ceredigion fod “cwestiynau mawr i’w holi” ynghylch y gorwario.
“Mae £4 miliwn yn swm sylweddol s’dim dwywaith am hynny, ac felly mae cwestiynau i’w holi i Gyngor Sir Ceredigion ond hefyd i Lywodraeth Cymru.
“Y cwestiynau mwyaf yw sut mae’r sir yn mynd i dalu ac a fydd y gorwario yma yn effeithio ar brosiectau eraill?
“Dwi’n deall faint mor gymhleth yw prosiect o’i fath a dwi’n gwybod bod Cyngor Sir Ceredigion wedi mynd nôl at Lywodraeth Cymru i holi am arian ychwanegol."
Cwmni BAM fu’n gyfrifol am gwblhau’r gwaith mewn tair ardal yn Aberaeron; Pwll Cam, Harbwr Aberaeron a Thraeth y De.
Roedd y gwaith ar y cynllun yn Aberaeron yn cynnwys:
- Adeiladu Morglawdd y Gogledd
- Adeiladu wal gynnal gerrig a grwyni pren ar Draeth y De
- Adeiladu gât harbwr mewnol newydd ym Mhwll Cam
- Cloddio ac adeiladu sylfeini ar gyfer Pier y De
- Gosod giât a wal goncrid ar lan Pen Cei
- Gosod llinell ddraenio ar hyd Pen Cei
Gorwario
Mae'r adroddiad ‘Monitro’r Rhaglen Gyfalaf – Chwarter 2’ gan y cyngor yn nodi mai cynllun amddiffyn arfordir Aberaeron yw’r ‘prosiect cyfalaf mwyaf’ yn rhaglen gyfalaf y cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'n nodi fod gwir gostau'r cynllun hyd at 31/10/25 yn £34.6 miliwn - sydd yn £3 miliwn dros y gyllideb wreiddiol o £31.6 miliwn.
Mae’r adroddiad hefyd yn dweud fod disgwyl i’r cyngor wario £1 miliwn ychwanegol ar ôl mis Hydref 2025, gan ddod â’r gorwariant i £4 miliwn.
Dywed yr adroddaid fod y gorwariant yma yn disgyn ar y cyngor i’w ariannu ar hyn o bryd ond bod ‘trafodaethau yn parhau’.
Yn ystod y gwaith adeiladu o dros dwy flynedd, bu pedwar 'amrywiad anffafriol' yn y cynllun medd yr adroddiad - oedd werth mwy ‘na £500,000 yr un.
Mae’r 'amrywiadau anffafriol' hyn sydd wedi cyfrannu at y gorwariant yn ymwneud â gwaith ychwanegol ar rannau o’r prosiect, ynghyd â gor-rediad amser o 43 wythnos.
Pwy fydd yn talu?
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C mai cyfrifoldeb "asiantaethau unigol" oedd y gyfrifol am gwblhau'r cynllun.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Rydym yn darparu cyllid i Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru ar gyfer prosiectau sy'n helpu i gyflawni nodau'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.
"Unwaith y bydd cyllid wedi'i sicrhau o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol, mae asiantaethau unigol wedyn yn gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau hyn. Felly, Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am gynllun rheoli risg arfordirol Aberaeron."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Gyngor Sir Ceredigion a chwmni BAM am ymateb.