Newyddion S4C

Galw am fwy o gefnogaeth i'r sector bwyd a diod yng Nghymru

Galw am fwy o gefnogaeth i'r sector bwyd a diod yng Nghymru

Be sgynnoch chi fan hyn, Carol?

"Labelu'r rhai bach 'di rhain, y rhai ar fyrddau brecwast."

Mae'r jam yma o Lyn yn mynd cyn-belled a Japan ac Awstralia ac efallai cyn hir i Dubai lle mae'r rheolwraig newydd fod ar ymweliad masnach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu, ond oes modd iddyn nhw wneud mwy?

"Dw i angen cael fy hebrwng trwy broses o ofyn am bres. Sut i fynd ati i gael y ffurflen gwybod beth sydd allan yna o ran cymorth ariannol a sut i fynd ati i chwilio am ddyfyniadau a'r arbenigwyr dw i angen i helpu i gael y peiriannau dw i angen.

"Mae 'na lot o bethau dw i ddim yn gwybod. Os dach chi'm yn gwybod rhywbeth, fedrwch chi'm gwneud dim amdano."

Dach chi 'di cael arian gan Lywodraeth Cymru?

"Do tad. Dw i wedi gwneud cais ddwywaith yn y gorffennol ac wedi cael pres. Dan ni 'di prynu'r peiriant yna efo'r pres gan y Llywodraeth a rhyw fanion o gwmpas.

"Dw i'n cael cefnogaeth i fynd dramor i weld cwmniau eraill a thrafod a gweld cwsmeriaid yn bell i ffwrdd.

"Byswn i'n licio cael 'chydig mwy o gymorth bod rhywun yn dod ata i, eistedd lawr a hebrwng fi trwy'r broses o ofyn am arian a gwneud y ceisiadau am grant. Dyna fysa'n help."

Mae dros 200,000 o bobl Cymru yn gweithio yn y gadwyn fwyd, 13% o fusensau yn y maes bwyd a diod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o'r cymorth maent yn rhoi i gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru, a hwnnw'n dod i'r casgliad bod llawer o waith da wedi ei wneud ond bod angen gwneud mwy i helpu cynhyrchwyr bwyd i gael hyd i farchnadoedd newydd fel bod modd cynhyrchu mwy a chreu mwy o swyddi.

Ymhlith yr awgrymiadau eraill, mae marchnata'r cymorth yn well fel bod busnesau'n gwybod beth sydd i'w gael.

Ond mae 'na feirniadaeth o'r Llywodraeth gan wr fu'n arwain yn y maes am flynyddoedd lawer.

"Mae'r sector fwyd a gofynion bwyd yng Nghymru wedi symud ymlaen.

"Yr hyn sydd ddim yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad nag yn argymhellion yw beth yw blaenoriaethau a'r anghenion yn y sector fwyd bellach."

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod eu strategaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod yn esbonio sut maent yn cefnogi arloesi, buddsoddi a thwf yng Nghymru, Prydain a thu hwnt.

Bydd y gefnogaeth yn cael ei hadolygu'n gyson.

Madarch sy'n rhoi'r busnes yma ym Meddgelert ar y map er bod y gwaith cynhyrchu wedi symud i safleoedd eraill bellach.

Ond beth yw barn y perchennog am y cymorth sydd i'w gael?

"Does gen i ddim byd ond canmoliaeth am y gefnogaeth 'dan ni wedi cael dros y blynyddoedd gan Llywodraeth Cymru a'i asiantaethau.

"Cefnogaeth i ddatblygu cynnyrch newydd, mynd at farchnadoedd newydd yn genedlaethol a rhyngwladol.

"Un peth fysa'n gwneud gwahaniaeth i fusnesau bach fel ni ydy cael cymorth i ychwanegu gwerth at y cynnyrch 'dan ni'n gwneud, er mwyn prosesu mwy yng Nghymru a chadw'r gwerth ychwanegol yng Nghymru."

Mae bwyd a diod gwerth dros £20 biliwn yn cael ei werthu yng Nghymru bob blwyddyn heb son am y ffaith ei fod yn rhywbeth 'dan ni gyd ei angen i fyw.

Mae sut i gefnogi'r diwydiant yn siwr o barhau yn bwnc trafod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.