Newyddion S4C

Ergyd i Gymru wrth i Ampadu wynebu llawdriniaeth

Ethan Ampadu

Mae disgwyl i Ethan Ampadu gael llawdriniaeth ar ei ben-glin ac mae’n amheuaeth fawr ar gyfer dechrau ymgyrch ragbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ddiwedd mis Mawrth.

Dywedodd rheolwr Leeds United, Daniel Farke, y bydd ei gapten yn colli eu gemau yn y Bencampwriaeth sydd i ddod ar ôl i’r amddiffynwr ddioddef ail anaf difrifol i'w goes.

Bu’n rhaid i Ampadu, sy’n 24 oed, golli 10 wythnos o chwarae ar ôl anafu ei ben-glin chwith yn erbyn Coventry ym mis Medi.

Fe wnaeth hefyd fethu’r fuddugoliaeth o 3-1 ddydd Llun yn Sheffield United yn y Bencampwriaeth gyda phroblem debyg ar ei goes arall.

"Mae'n debyg ei fod yn anaf difrifol," meddai Daniel Farke.

"Mae'n ben-glin gwahanol. Mae ychydig yn rhy gynnar i'w asesu ond mae'n edrych fel anaf cartilag ac mae'n eithaf amlwg y bydd angen iddo gael llawdriniaeth yn y dyddiau nesaf."

Ergyd fawr

Fe fethodd Ampadu bedair gêm o ymgyrch Cymru yn yr hydref yng Nghynghrair y Cenhedloedd a 12 gêm i Leeds sydd ar frig y Bencampwriaeth.

Mae bellach yn wynebu colli gemau hollbwysig yn ymgais Leeds am ddyrchafiad, ynghyd â gemau Cymru yn erbyn Kazakhstan gartref ar 22 Mawrth ac yng Ngogledd Macedonia dridiau yn ddiweddarach.

"Mae ychydig yn rhy fuan i roi ffrâm amser ar gyfer pa mor hir y bydd allan," ychwanegodd Farke.

“Mae’n dibynnu ychydig ar sut mae’n gweithio, ond yn bendant ni fydd ar gael ar gyfer y gemau nesaf o leiaf ac mae’n ergyd fawr i ni.

"Beth yw'r siawns o ddau anaf mawr mewn un tymor ar ôl peidio â cholli munud y tymor diwethaf?"

Ar ôl dwy gêm agoriadol mis Mawrth, mae gemau rhagbrofol nesaf Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2026 ym mis Mehefin pan fyddan nhw'n croesawu Liechtenstein cyn teithio i Wlad Belg.

Daw eu pedair gêm arall yng Ngrŵp J ar ddechrau tymor 2025-26.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.