Cerddorion yn Sir Ddinbych yn cynnig darpariaeth cerdd ar ôl i wasanaethau ddod i ben
Cerddorion yn Sir Ddinbych yn cynnig darpariaeth cerdd ar ôl i wasanaethau ddod i ben
O wersi mewn ysgolion i ensemblau.
Mae'r sefydliad hwn yn Sir Ddinbych yn cynnig darpariaeth cerdd ar draws y sir.
Mae'n cael eu cynnal gan gerddorion i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf ar ol i wasanaethau yn y sir ddod i ben oherwydd toriadau.
"Mae gwasanaethau yn cael grant gan y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol.
"'Dan ni'n gweithio efo'r sir i roi gwersi am ddim i rai plant.
"Wedyn, ni'n chwilio am grantiau gan wahanol cwmniau a phobl.
"Fel mae'r wlad yn mynd, mae'n mynd yn anoddach cael yr arian."
Ar ymweliad a chanolfan gelfyddydol yn Wrecsam heddiw roedd llygedyn o obaith gan y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant.
Ond, mae toriadau wedi bod flwyddyn ar ol blwyddyn.
Pa wahaniaeth gaiff yr hwb?
"Un peth sy'n ganologol yw bod y gweinidog wedi gwrando ac ymateb.
"Mae'n braf i weld y cynnydd yn dod i'r sector ar ffurf y Gyllideb.
"Bydd un Gyllideb ddim yn medru datrys holl broblemau'r sector ond mae'n arwydd cadarnhaol bod y sector yn cael ei barchu a bod 'na gonsyrn am y dyfodol."
Yn ol un o brif denoriaid Cymru, mae angen rhoi'r celfyddydau yn yr un cae a rhai o'n gwasanaethau cyhoeddus.
"'Dan ni wedi cael ein perswadio i edrych ar y celfyddydau fel rhywbeth ychwanegol, fel perk, fel luxury.
"'Dan ni'm yn weld o fel rhywbeth sy'n angenrhediol bob dydd i ni yn yr un modd mae'r GIG a'n haddysg yn angenrheidiol bob dydd yn yr un modd a phethau yna i gyd."
Mae rhybuddion wedi bod ers tro bod y celfyddydau mewn argyfwng.
Fis diwethaf, dywedodd un o bwyllgorau Senedd Cymru byddai rhagor o doriadau ariannol yn effeithio ar lwyddiant Cymru ym maes chwaraeon a diwylliant yn y dyfodol.
Dros ddegawd, 'dan ni wedi gweld toriadau.
"Mae Cymru o gwmpas y gwaelod pan mae'n dod i wledydd Ewropeaidd a faint o wariant sydd y pen ar ddiwylliant a chwaraeon.
"Felly, mae creisis wedi bod yn y sectorau hyn ers amser hir.
"Fi'n siwr bydd yr arian ychwanegol yn gam pwysig ymlaen ond ar ei ben ei hunan fydd hyn ddim yn gwneud i ffwrdd a'r creisis."
Mae sefydliadau celfyddydol wedi bod yn curo'r drwm am ragor o fuddsoddiad.
Er yr arian ychwanegol mae rhybudd mai dim ond cam yn y cyfeiriad cywir yw'r cyhoeddiad yma.