Dim angen difa ci XL Bully ar ôl iddo ymosod ar fachgen 12 oed ym Môn
Mae perchennog ci XL Bully mastiff o Ynys Môn wedi cael gwybod na fydd yn rhaid difa’r anifail ddydd Mawrth wedi iddo ymosod ar fachgen 12 oed.
Fe glywodd Llys y Goron Caernarfon bod ci o’r enw Hugo wedi dianc o eiddo Meacalla Newcombe yn Cleveland Crescent, Caergybi, ar ôl i blentyn fynd i mewn ac allan o’r tŷ.
Roedd Hugo wedi ymosod ar fachgen 12 oed gan ei gnoi ar ei ben a’i ben glin.
Fe geisiodd y bachgen ddianc rhag Hugo cyn iddo ymosod arno, ond fe gwympodd ar y llawr ac fe neidiodd y ci ar ei gefn, clywodd y llys.
“Roedd yn amlwg yn ddigwyddiad a wnaeth ei synnu a’i frawychu,” meddai’r Barnwr Timothy Petts.
Fe blediodd Ms Newcombe, 41, yn euog o fod yn berchen ar gi oedd yn allan o reolaeth ac a wnaeth achosi'r anaf fis Mai diwethaf.
Bydd yn rhaid iddi dalu £1,000 o iawndal a chwblhau 100 awr o waith di-dâl.
Mae cŵn brîd XL Bully wedi eu gwahardd oni bai bod gan y perchennog dystysgrif sydd yn eu heithrio a'i fod yn cadw'r ci dan reolaeth gyda mwsel (muzzle) yn gyhoeddus. Clywodd y llys bod tystysgrif o’r fath â Ms Newcombe.
Dywedodd y Barnwr Petts nad oedd yn credu fod y ci yn beryglus i’r cyhoedd. Roedd asesiad yn dangos bod Ms Newcombe yn berchennog cyfrifol, ychwanegodd.
Fe roddwyd gorchymyn difa amodol gan olygu y bydd yn rhaid i Hugo gwisgo tennyn ci penodol gyda mwsel a harnais yn gyhoeddus, yn ogystal â gwisgo mwsel y tu fewn pan fydd unrhyw un sydd ddim yn adnabyddus iddo yn y tŷ.
Dywedodd y Barnwr y dylai Ms Newcombe mynd â’i chi i sesiynau hyfforddi.