Biliau ynni cartrefi i gynyddu £111 wrth i Ofgem godi'r cap ar brisiau
Bydd bil ynni cyfartalog cartrefi yn cynyddu 6.4% o fis Ebrill ar ôl i’r rheoleiddiwr Ofgem ddweud eu bod yn cynyddu’r cap ar brisiau.
Cyhoeddodd Ofgem eu bod yn codi’r cap ar brisiau o’r £1,738 presennol ar gyfer cartref arferol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i £1,849, o 1 Ebrill.
Fe fydd hyn yn ychwanegu £111 y flwyddyn neu tua £9.25 y mis at fil cyfartalog dros dri mis cyfnod y cap prisiau.
Mae hyn yn 9.4% neu £159 yn uwch na’r amser yma y llynedd ond yn £531 neu 22% yn is nag ar ddechrau 2023.
Dywedodd Ofgem mai’r cynnydd diweddar mewn prisiau cyfanwerthu oedd y prif reswm y tu ôl i'r penderfyniad.
Dywedodd prif weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley: “Rydyn ni’n gwybod nad oes croeso byth i unrhyw gynnydd mewn prisiau, a bod cost ynni yn parhau i fod yn her enfawr i lawer o gartrefi.
“Ond mae ein dibyniaeth ar farchnadoedd nwy rhyngwladol yn arwain at brisiau cyfanwerthol cyfnewidiol, ac yn parhau i godi biliau, a dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn gyrru buddsoddiad mewn system lanach, cartref.
“Mae dyledion ynni a ddechreuodd yn ystod yr argyfwng ynni wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed a heb ymyrraeth byddant yn parhau i dyfu. Mae hyn yn rhoi teuluoedd dan straen enfawr ac yn cynyddu costau i bob cwsmer. Rydyn ni’n datblygu cynlluniau a allai roi’r llechen lân sydd ei hangen arnynt i symud ymlaen i aelwydydd â dyledion na ellir eu rheoli.”