Cymru yn 'rhy fach a rhy dlawd' i ddatganoli Ystâd y Goron
Fe gafodd cynlluniau i ddatganoli pwerau Ystâd y Goron yng Nghymru eu gwrthod oherwydd bod "Llywodraeth y DU o’r gred" fod y wlad yn “rhy fach a rhy dlawd,” yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Daw wedi i gynlluniau i “foderneiddio’r” sefydliad gael ei basio yn Nhŷ’r Cyffredin yn Llundain gan olygu y bydd ganddynt fwy o bwerau ariannol i fuddsoddi a benthyg.
Dywedodd gweinidog y Trysorlys, James Murray, y bydd Mesur Ystâd y Goron yn sicrhau “ffyniant hirdymor i’r genedl”, cyn iddo gael ei gymeradwyo gan ASau ar y trydydd darlleniad.
Ond yn ôl rhai aelodau Plaid Cymru fe ddylai pwerau Ystâd y Goron yng Nghymru gael eu datganoli.
Fel arweinydd y blaid yn San Steffan, roedd Liz Saville Roberts, sy’n cynrychioli Dwyfor Meirionnydd, yn honni bod peidio gwneud yn dangos bod Llywodraeth y DU yn gweld Cymru fel gwlad sydd yn “rhy fach a rhy dlawd” i gael pwerau uniongyrchol o’r fath.
Roedd AS Plaid Cymru Llinos Medi wedi dweud y dylai pobl Cymru “perchen” a “buddio” o’u hadnoddau naturiol eu hunain gan gynnig addasiad i’r mesur.
Dywedodd y gwleidydd sy’n cynrychioli Ynys Môn bod “miliynau o bunnoedd sy’n cael ei chreu ar Ystâd y Goron Cymreig yn cael ei chymryd allan o Gymru pob blwyddyn".
Roedd Mr Murray wedi dweud y byddai datganoli’r sefydliad yn “rhy gymhleth” a’i fod yn fwy buddiol i bobl Cymru a’r Deyrnas Unedig i gadw Ystâd y Goron fel y mai.
Mewn ymateb dywedodd Ms Saville Roberts: “Mae’r gweinidog newydd ddweud wrth y Tŷ fod Cymru yn rhy fach ac yn rhy dlawd i weld unrhyw fudd trwy ddatganoli Ystâd y Goron.
“Mae hynny’n ddadl ryfeddol, ac rwy’n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu fy syndod.”
Dywedodd Mr Murray y byddai datganoli’r sefydliad yn golygu y bydd rhaid dechrau o’r man cychwyn, a hynny hanner ffordd drwy broses dendro fasnachol gwerth miliynau o bunnoedd.
Fe gafodd addasiad Ms Medi ei wrthod gyda 56 yn pleidleisio o blaid a 316 yn erbyn gan olygu fod yna mwyafrif o 257.
Mae Ystâd y Goron yn gwmni annibynnol sy'n perthyn i'r teulu brenhinol.
Maen nhw’n perchen ar tua £15.5 biliwn gwerth o dir ac asedau, ac mae tua £853 miliwn ohono yng Nghymru.
Mae 25% o elw blynyddol y sefydliad yn mynd tuag at dalu am ddyletswyddau’r brenin a brenhines. Mae’r gweddill yn mynd i’r Trysorlys yn uniongyrchol.